Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£20400.00

Cyflwyno

Roedd y prosiect yn canolbwyntio’n llwyr ar weithio gyda grŵp clwstwr oedd wedi’i gyfansoddi o’r enw Grŵp Clwstwr Gwledig Dyffryn Trefaldwyn (VMRC). Y diben yw cynorthwyo’r grŵp clwstwr i ddynodi a hyfforddi gwirfoddolwyr eu hunain i flaenoriaethu a rheoli hawliau tramwy cyhoeddus o fewn eu ffiniau, a chymryd ychydig o berchnogaeth dros fynediad cyhoeddus i wella iechyd a lles eu trigolion, ynghyd â’r economi lleol trwy hyrwyddo hawliau tramwy cyhoeddus sy’n agored ac wedi’u cynnal a’u cadw.  

Un o’r prif flaenoriaethau ar gyfer y VMRC oedd cynyddu darpariaeth ar gyfer mynediad cyhoeddus, ac i agor a chynnal a chadw’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus na ellir cerdded ar ei hyd oherwydd rhwystrau bwriadol. Cafodd y gymuned ei chymell i sicrhau nad yw hyn yn parhau, ac fel yr oedd hi’n digwydd, roedd y Gwasanaethau Cefn Gwlad yn edrych i fabwysiadu mwy o ddulliau dan arweiniad y gymuned i reoli’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ar yr un pryd.  

Yr Her 

Y brif broblem a wynebai’r prosiect oedd cadw Arweinydd Tîm Gwirfoddolwyr (VTL) gweithgar oedd wedi’i hyfforddi. Mae’r Arweinydd Tîm Gwirfoddolwyr yn swydd allweddol sydd angen hyfforddiant addas, a gwirfoddolwr sy’n derbyn y cyfrifoldeb dros oruchwylio gwirfoddolwyr ar y sail honno.   

Mae’r Arweinydd Tîm Gwirfoddolwyr yn swydd o bwys, a thra bo’r prosiect wedi recriwtio Arweinydd, ni ellid cadw a chynnal y swydd ar gyfer hyd y prosiect.   

Yr Ateb  

Yr ateb oedd bod amrywiaeth o lwybrau a theithiau cerdded wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio Trefaldwyn fel canolbwynt ar gyfer gŵyl Gerdded ar y cyd gyda’r VMRC. Roedd hyn wedi darparu ffocws ar gyfer dynodi a hyfforddi gwirfoddolwyr cymunedol ar gyfer amcanion tymor canolig a hir y prosiect. 

Fel grŵp clwstwr oedd wedi’i gyfansoddi, gwelwyd rheoli ei rwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus i ddatblygu teithiau cerdded a’r economi lleol fel blaenoriaeth allweddol gan y VMRC. Roedd dyheadau’r Gwasanaethau Cefn Gwlad fel yr awdurdod priffyrdd, a’r VMRC felly yn bartneriaeth ddelfrydol.  

Mae hyfforddi gwirfoddolwyr a’r Arweinydd Tîm Gwirfoddolwyr felly yn seiliedig ar yr hyn a ddarperir eisoes yn llwyr gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad, ac mae 8 o wirfoddolwyr gweithgar yn gweithio gyda’r gymuned ar hyn o bryd sy’n cael ei rheoli gan y Gwasanaethau Cefn Gwlad.  

Y Budd 

Gyda gweithlu gwirfoddoli cadarn, yna gellir rheoli’r hawliau tramwy cyhoeddus gan y gymuned, sy’n golygu y gallant ddynodi a blaenoriaethu gwaith fel y byddant yn ei weld yn dda. Fe fydd cyngor parhaus, a deialog gyda’r Cyngor fel yr awdurdod priffyrdd, ynghyd â gorchmynion cyfreithiol a gwaith gorfodaeth ffurfiol petai ei angen. Mae’r fethodoleg hon, a gweithio mwy gyda’r gymuned yn rhywbeth mae’r Gwasanaeth yn ymdrechu i’w gyflawni a’i fabwysiadu o fewn ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy 10 mlynedd.

Canlyniad  

  • Mae llawer iawn o waith da wedi’i gynnal ar lwybrau troed mewn ardal gyda rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus arwyddocaol a sylweddol ond hefyd gyda nifer o anawsterau gyda seilwaith, arwyddion cyfeirio a rhwystrau ar lwybrau.  
  • Grŵp o wirfoddolwyr llwybrau troed lleol sydd wedi’u hyfforddi a chyda’r offer cywir i gynnal gwaith a flaenoriaethir ar draws y Clwstwr.  
  • Gwaith sy’n canolbwyntio ar ardal gan gontractwyr Gwasanaethau Cefn Gwlad lle na ellir cynnal tasgau yn hawdd gan wirfoddolwyr.  
  • Prosiect cymunedol cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar lwybrau sy’n bwysig i’r gymuned y gellir eu hunan-raglennu unwaith y mae Arweinydd y Tîm Gwirfoddolwyr wedi derbyn hyfforddiant.  
  • Cynnydd mewn cerdded yn yr ardal gyda dau grŵp cerdded newydd a dau o grwpiau eraill yn gweld cynnydd arwyddocaol mewn aelodaeth.  
  • Cynorthwyo Walkers are Welcome Montgomery i sefydlu Gŵyl Gerdded Flynyddol trwy sicrhau fod y llwybrau a gynlluniwyd yn hawdd i gael mynediad atynt a thrwy gynorthwyo gyda deunyddiau hyrwyddo. Roedd hyn wedi denu dros 80 o bobl o du allan i’r ardal i’r ŵyl ac mae nifer yn dychwelyd ar gyfer Gŵyl 2018, sy’n hwb a groesewir i’r economi lleol.  
  • Cyhoeddi nifer o daflenni llwybrau cerdded cylchol ar draws y Clwstwr gan ddisgrifio’r llwybrau sy’n hygyrch ac agored erbyn hyn. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio’n dda gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Unwaith eto, maent o fudd sylweddol i economi twristiaeth y grŵp VMRC. 
  • Perthnasoedd gwaith da gyda’r VMRC a Gwasanaethau Cefn Gwlad, gyda’r VMRC yn ennill dealltwriaeth well o’r hawliau a’r cyfrifoldebau o ran y rhwydwaith.  

 Ar hyn o bryd, mae’r Clwstwr yn sefydlu grŵp llywio i symud ymlaen gyda’r prosiect Llwybrau Troed. Bydd hyn yn cynrychioli’r Clwstwr; fe fydd yn cysylltu â’r gymuned pan fydd mater yn codi ac fe fydd yn cysylltu â Gwasanaethau Cefn Gwlad am gyngor a chefnogaeth. Bydd y grŵp hwn yn blaenoriaethu’r rhaglen waith ar gyfer gwirfoddolwyr ac yn sicrhau fod hyn yn deg ar draws y Clwstwr.  
 
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen wedi bod yn fuddiol wrth wella mynediad; gan hyrwyddo Hawliau Tramwy a sefydlu protocolau ar gyfer gweithio ar draws y gymuned a chysylltiadau gydag adrannau’r Cyngor. 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Mark Stafford-Tolley
Rhif Ffôn:
01597 827677
Email project contact