Lleoliad:
Merthyr Tudful
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£47896.00

Mae rhaglen Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog (BBMC) yn gweithio’n rhagweithiol ac ar raddfa tirwedd ledled ein dalgylchoedd dŵr er mwyn ceisio deall, lleihau ac osgoi problemau ansawdd dŵr yn eu ffynhonnell.  Y glanaf a’r mwyaf dibynadwy yw’r dŵr yn yr amgylchedd, y lleiaf o gemegau ac ynni sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu dŵr yfed maethlon. Bydd llawer o’r camau fydd yn cael eu defnyddio i wella ansawdd y dŵr hefyd yn darparu nifer o fanteision eraill fel amaethyddiaeth gynaliadwy, adferiad natur, gwelliant tirwedd a llesiant cymunedol.

Un o’r mentrau a ddaw yn sgil y dull hwn o weithio yw Prosiect Tirwedd a Chymuned Taf Fechan sydd yn canolbwyntio ar dalgylch cronfa ddŵr Pontsticill. Mae’r dalgylch yn ardal 1628 hectar (16.28Km²) ac yn darparu cyflenwad dŵr preifat a chyhoeddus i dros 162,000 eiddo. Fodd bynnag, mae’n cael ei ddosbarthu fel Parth Diogelu dŵr. Mae ansawdd y dŵr yn yr ardal mewn perygl o waethygu a bydd hyn yn ffocws rheolaeth ac ymgysytllltiad rhagweithiol er mwyn diogelu a gwella cyflenwadau dŵr. Mae problemau dŵr cyfredol yn cynnwys  algae, maethynnau ychwanegol a phresenoldeb cyfansoddion sy’n ffurfio blas ac arogl. Er nad ydynt yn peryglu iechyd, gallant roi blas  llwydaidd i’r dŵr a’i wneud yn anerbyniol i’r cwsmer. 

Bydd swyddog y prosiect yn gweithio â Chymuned Pontsticill ac yn ymgysylltu â phreswylwyr sydd â chyflenwadau dŵr preifat, systemau septig a thanciau storio olew yn y dalgylch gan ddarparu arweiniad ar ddynodi problemau a gwaith cynnal a chadw hirdymor i osgoi niweidio’r amgylchedd. 

Mae Prosiect Tirwedd a Chymuned Taf Fechan yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020 sydd yn cael ei ariannu gan Gronfa'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a gan Lywodraeth Cymru.

Cyfanswm Gwariant Cymwys Refeniw    £63,634.00
Uchafswm Cyfradd y Grant Refeniw        75%
Uchafswm y Grant Refeniw                     £47,896.00

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Harri Evans
Rhif Ffôn:
01685 725463
Email project contact