Lleoliad:
Pen-y-bont ar Ogwr
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£40000.00

Mae dwysáu a diwydiannu arferion ffermio wedi arwain at leihau porfa barhaol sydd â chyfoeth o rywogaethau a’i throi yn borfa sy’n cynnwys un neu ddau o rywogaethau yn unig. Ar un adeg, roedd glaswelltiroedd â chyfoeth o rywogaethau yn gyffredin ledled y Deyrnas Unedig, ac roeddent yn cynnal amaethu tir glas, pridd â gweithgarwch iach, a fflora a ffawna toreithiog ac amrywiol.

Y gwanwyn hwn, bydd 3 fferm ucheldir yn Ne Cymru yn ail-hau 4-5 hectar o dir ymylol gyda gwndwn aml-rywogaeth yn erbyn gwndwn confensiynol o rhygwellt/meillion gwyn er mwyn cymharu allbynnau o’r ddau system fel rhan o brosiect tair mlynedd EIP Wales.

Cynllun Prosiect:

  • Bydd y caeau yn cael eu chwistrellu gyda glyphosad er mwyn lladd y glaswellt sydd yno eisoes cyn eu haredig a’u hau gyda dau gymysgedd hadau (gwndwn aml-rywogaeth (triniaeth) a rhygwellt/meillion gwyn (rheolydd))
  • Bydd 50% o’r cae y cael eu hau gyda gwndwn aml-rywogaeth yn cynnwys o leiaf 5 rhywogaeth porfa, 3 codlys a 3 rhywogaeth llysiau ac 50% arall y cae yn cael ei hau gyda chymysgedd o rygwellt a meillion gwyn ar 14kg/yr erw.
  • Yn y flwyddyn gyntaf bydd asesiad yn cael ei gynnal ar ba mor dda mae’r hadau yn sefydlu a faint gwell yw’r hadau na’r borfa chwyn a’r chwyn llydanddail annymunol
  • Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn bydd y prosiect yn monitro cynhyrchiant ac ansawdd y porthiant, perfformiad y da byw a phoblogaeth yr infertebrat yn y gwndwn newydd.

Mae tiroedd Cymru’n amrywio’n sylweddol o ran ansawdd a ffrwythlondeb pridd, felly bydd deall effeithiolrwydd gwahanol gyfansoddiadau porfa’n arwain at ddull mwy effeithlon a phenodol o hau glaswellt ar dir ymylol.

Os bydd cynyddu amrywiaeth blodau hefyd yn gallu lleihau’r amser gofynnol i besgi ŵyn a/neu wella iechyd anifeiliaid, gallai glaswelltir gwirioneddol amlrywoaeth gynnig cyfle i reoli tir ymylol yng Nghymru ar gyfer cynhyrchiant a bioamrywiaeth cyffredinol.

Adroddiadau, Fiedoes ac Erthyglau:

Poster (Chwefror 2020): Crynodeb o ganlyniadau 2018 a 2019

Adroddiad Interim (Ionawr 2019): Porthiant Amgen

Fideo (Medi 2018): Chris Duller - Sefydlu'r prosiect systemau porthiant amgen

Cyhoeddiad Technegol (Mawrth/Ebrill 2018): Systemau porthiant amgen ar gyfer ti…

Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Will John
Email project contact