- Lleoliad:
-
Sir Benfro
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£39942.00
Nid yw’r corff dynol yn gallu cynhyrchu’r asidau brasterog omega-6 ac omega-3. Gelwir y rhain yn “asidau brasterog hanfodol” gan fod rhaid iddynt gael eu bwyta yn ein diet. Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn cael digon o omega-3. Rydym yn dueddol o gael lefelau llawer uwch o omega-6 yn ein diet. Gall y diffyg cydbwysedd hwn mewn asidau brasterog gael effaith negyddol ar ein hiechyd. Mae cynyddu faint o omega-3 yr ydym yn ei gael a chael y cydbwysedd cywir rhwng y ddau yn hanfodol a gwelwyd bod i hynny fanteision amrywiol o ran iechyd i’r meddwl a’r corff.
Mae ugain o ffermwyr llaeth o Dde Orllewin Cymru wedi dod at ei gilydd i ymchwilio a yw systemau cynhyrchu llaeth yng Ngorllewin Cymru eisoes yn cynnwys lefelau gwerthfawr o omega-3. Eu nod yw dynodi pa arferion rheoli ar sail porfa sy’n cynhyrchu’r lefelau uchaf o asid brasterog. Gallai’r canlyniadau roi cyfle i ffermwyr llaeth ystyried y dewisiadau ar sail porthiant o gynhyrchu llaeth gyda lefelau uwch o omega-3. Gallai hyn roi mantais wrth farchnata heb fynd i’r gost ychwanegol o ychwanegu ategolion at eu porthiant. Mae’r grŵp yn cyflenwi eu llaeth i nifer o wahanol brynwyr a phroseswyr llaeth, gan gynnwys llaeth hylifol, llaeth hylifol premiwm organig, cynhyrchwyr caws a chynhyrchwyr cynhwysion bwyd uchel eu gwerth. Mae potensial i’r defnyddwyr llaeth yma i gyd fanteisio ar ganlyniadau’r prosiect trwy farchnata eu cynnyrch am eu cynnwys omega-3 uchel.
Yn y flwyddyn gyntaf bydd pob fferm yn darparu samplau tancer bylc a phorthiant i’r prosiect 24 mis. Bydd y samplau yn cael eu profi am eu proffil asid brasterog gan roi pwyslais arbennig ar omega-3 ac omega-6. Bydd samplau o borthiant hefyd yn cael eu casglu o’r 20 fferm yn fisol, wedi eu cysylltu â’r sampl o laeth tancer bylc. Archwilir pedair system gynhyrchu llaeth, pob un yn cynnwys pum ffermwr yn cynrychioli pob math o system gynhyrchu.
Y systemau cynhyrchu yw:
- Confensiynol Dan do yn y gaeaf/allan yr haf
- Buchesi sydd dan do trwy’r flwyddyn
- Buchesi organig
- Buchesi sy’n lloea mewn bloc yn y gwanwyn
Ym mlwyddyn 2 y prosiect, bydd yr un broses o samplo llaeth a phorthiant ag ym mlwyddyn 1 yn parhau. Rhoddir mwy o bwyslais ar brofi dognau pan fydd systemau yn cynhyrchu lefelau uwch o asidau brasterog omega-3 i roi rhagor o wybodaeth am y maeth i’r fuwch sy’n cynhyrchu’r lefelau gorau.
Adroddiadau, Fideos ac Erthyglau
Mae EIP yng Nghymru, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Partneriaeth Arloesi Ewrop EIP yn rhan o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) sy’n cael ei ddarparu o dan Fesur 16 (Erthygl 35 o Reoliad (EU) 1305/2013). Mae’r CSCDS yn elfen bwysig o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae’r EIP yn cael ei ddarparu dan is-Fesur 16.1 o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Jeremy
- Cyfeiriad e-bost:
- Jeremy@landsker.co.uk
- Email project contact