Math o ddigwyddiad:
Cynhadledd Rithwir
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Microsoft Teams
E-bost:
SMS event

Nod y digwyddiad rhithwir hwn oedd tynnu sylw at arferion gorau, cyflawniadau a chanlyniadau a gyflawnwyd o dan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy, Cymunedau Gwledig 2014 – 2020.

Roedd y diwrnod yn cynnig cyfle i ddod â phartneriaid prosiectau ac eraill ynghyd i rannu arferion gorau ac ysgogi syniadau a thrafodaethau. Roedd y digwyddiad yn llwyfan i ddangos y modd y mae partneriaethau prosiectau yn rheoli tir mewn modd cydweithredol a chynaliadwy gan ddefnyddio dull maint tirwedd; i roi datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ar waith yn llwyddiannus er mwyn mynd i'r afael â'r heriau rydym yn eu hwynebu ac i wella ein hadnoddau naturiol er budd pobl Cymru.

Denodd y digwyddiad gryn ddiddordeb gan randdeiliaid, ac ymunodd mwy na 90 o bobl â ni ar-lein.

Uchafbwyntiau'r Digwyddiad

Agorodd y digwyddiad am 10am, gyda Chroeso a Chyflwyniad gan Catherine Hughes (Partneriaeth Rhostir Powys) a Sian Roberts (Cazbah Ltd).

Manteisiodd y rhanddeiliaid ar y cyfle i wylio sawl cyflwyniad ar brosiectau'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn ystod y diwrnod, ynghyd â fideos ar brosiectau, ac fe'u gwahoddwyd i wrando ar bodlediad gan brosiect yn myfyrio ar ei waith.

Roedd y digwyddiad yn rhyngweithiol iawn, gyda rhanddeiliaid yn gofyn cwestiynau diddorol a oedd yn ysgogi'r meddwl i gyflwynwyr prosiectau pan oedd cyfle'n codi.

Am 11am, cynhaliodd y rhanddeiliaid 2 funud o dawelwch i gofio Dydd y Cadoediad.

Cafodd trafodaeth fywiog ei chadeirio gan Catherine Hughes, gan rannu cyflawniadau prosiectau a'r gwersi a ddysgwyd o brosiectau'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy. Cododd y pwyntiau canlynol yn ystod y sesiwn a ysgogodd ragor o drafodaethau ymysg y rhanddeiliaid:

  • Roeddent yn awyddus i weld y gellid defnyddio'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy i lywio'r Cynllun ffermio cynaliadwy 
  • Gofynnwyd am gyfleoedd i fod yn rhan o astudiaethau peilot ar gyfer Cynllun ffermio cynaliadwy 
  • Cafwyd cydnabyddiaeth gadarnhaol o'r gweithgareddau amrywiol ar raddfa enfawr a'r canlyniadau a gyflawnwyd drwy'r prosiectau yn sgil y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
  • Mae angen rhagor o gymorth gan Lywodraeth Cymru i barhau â'r ffordd newydd hon o weithio er mwyn cefnogi egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy
  • Pwysigrwydd cydweithio ac ymgysylltu gwledig 
  • Edrych ar ddulliau arloesol yn cynnwys Talu am Wasanaethau Ecosystemau ar gyfer y dyfodol
  • Mae angen rhagor o gymorth ar gyfer prosiectau sy'n defnyddio dull maint tirwedd strategol a gynlluniwyd o'r gwaelod i fyny, ac mae angen i Lywodraeth Cymru werthfawrogi'r angen i ddilyn y dull hwn mewn gwaith datblygu gwledig yn y dyfodol.

Cynhaliwyd sesiwn grŵp; rhannwyd y rhanddeiliaid yn 6 grŵp i drafod y penawdau testun canlynol:

1.    Cadernid ecosystemau 
2.    Cydweithio ac anghenion yn y dyfodol
3.    Iechyd a lles 
4.    Gweithio gan ddefnyddio dull maint tirwedd a dalgylch 
5.    Monitro a Gwerthuso
6.    Ymgysylltu â chymunedau a datblygu cymunedau gwledig (grŵp dwyieithog)

Ymysg yr adborth a gafwyd o'r sesiynau grŵp roedd y sylwadau canlynol:

  • Pwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar leoedd 
  • Mae angen i gynlluniau yn y dyfodol edrych ar daliadau i ffermwyr/perchnogion tir gan mai drwy ewyllys da y maent yn cymryd rhan ar hyn o bryd, ac mae eu gwybodaeth leol yn allweddol
  • Mae angen mabwysiadu dull cyfannol ond gan gydnabod yr angen i ganolbwyntio ar faterion penodol ar yr un pryd
  • Mae angen mabwysiadu Dull Tirwedd gan fod y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn cefnogi drwy feysydd eraill Llywodraeth Cymru
  • Mae angen mabwysiadu dull strategol ar gyfer rheoli llifogydd
  • Mae angen i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion lliniaru llifogydd
  • Cafwyd sylwadau cadarnhaol fel bod y Cynllun Rheoli Cynaliadwy wedi dod â phobl ynghyd i gyflawni nifer o nodau ar draws meintiau tirwedd 
  • Pwysigrwydd datrysiadau sy'n seiliedig ar natur a'r hyblygrwydd i ffermwyr deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a chael dewis ar y gwaith cyfalaf a roddir ar waith 

Daeth y digwyddiad i ben am 3:15pm, yn dilyn sylwadau i gloi gan Catherine Hughes, Sian Roberts a diolchwyd i'r holl gyflwynwyr, trefnwyr a'r rhai a fynychodd gan Nicola Thomas (Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Is-adran yr Amgylchedd a Chymunedau, Llywodraeth Cymru).

Awgrymodd yr awyrgylch cadarnhaol cyffredinol drwy gydol y diwrnod a'r rhyngweithio parhaus ar-lein gan y rhai a fynychodd fod y digwyddiad wedi bod yn brofiad rhwydweithio a rhannu syniadau gwerth chweil i bawb.

Dolenni i ddeunyddiau'r Digwyddiad:

  • 10:10am - Cyflwyniad Prosiect - Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon - Louise Moon a Phil Stocker 

 

Rheoli Adnoddau yn Gynaliadwy yn y Mynyddoedd Duon

Sefydliad Arweiniol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
E-bost: Louise.Moon@beacons-npa.gov.uk
Grant a Ddyfarnwyd: £1,004,155
Lleoliad: Y Mynyddoedd Duon, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Prosiect cydweithredol gan Bartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon sy'n ymgysylltu â pherchnogion tir, porwyr a chyrff rheoleiddiol gyda'r nod o gyflawni newid cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol drwy roi dulliau rheoli tir cydweithredol a chynaliadwy ar waith ar draws tirwedd y Mynyddoedd Duon. Bydd gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys rheoli rhedyn, adfywio grug a diogelu adnoddau mawn. Bydd y gwelliannau arfaethedig i fynediad i dda byw yn helpu i reoli stoc ac yn cynnig profiad gwell i ymwelwyr yn yr ardal. Bydd y ffocws ar reoli mawndir a rhedyn ynghyd â gwella'r profiad i ymwelwyr yn yr ardal ac ymgysylltu â chymunedau lleol a gaiff eu cynnwys drwy ddatblygu rhaglen sgiliau gwledig, ymgysylltu ag ysgolion a chreu cyfleoedd cyflogaeth.

Partneriaeth Rhostir Powys

Sefydliad Arweiniol: Ireland Moor Conservation Ltd
E-bost: will@irelandmoor.com  
Grant a Ddyfarnwyd: £600,000
Lleoliad: Powys

Prosiect sy'n defnyddio dull maint tirwedd i annog gwaith adfer rhostir drwy gamau gweithredu cydweithredol o'r gwaelod i fyny a ysgogir gan gymunedau sy'n byw ac yn gweithio ar y rhostir ac o'i amgylch. Y nod yw cyflawni buddiannau lluosog yn cynnwys iechyd y cyhoedd, rhannu sgiliau ac addysg. Bydd rhanddeiliaid allweddol yn cynnwys perchnogion tir, ffermwyr a chymunedau yn creu amgylchedd rhostir bywiog i roi hwb i fioamrywiaeth, gan sicrhau buddiannau economaidd a chymdeithasol. Y gobaith yw sefydlu menter strategol gyffrous ym Mhowys a chyflawni potensial llawn bron 20,000 erw o rostir sy'n ymestyn o Ddyffryn Llanddewi Nant Hodni yn ne y sir i dir comin Bugeildy yng ngogledd y sir, y gellir ei fwynhau gan gymunedau yn ogystal â denu twristiaeth a chyfleoedd busnes newydd i roi hwb i gyflogaeth wledig ac ysgogi'r economi wledig.

  • 11:05 - Cyflwyniad Prosiect - Lewis Stallard 
PDF icon

Ffermio Gwastadeddau Gwent yn Gynaliadwy

Sefydliad Arweiniol: RSPB Cymru
E-bost: Jonathan.Cryer@rspb.org.uk ac Lewis.Stallard@rspb.org.uk
Grant a Ddyfarnwyd: £554,953
Lleoliad: Gwlyptiroedd De-ddwyrain Cymru

Mae'r prosiect cydweithredol hwn yn cynnwys RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent yn cydweithio'n agos â ffermwyr a phartneriaid eraill i feithrin y ddealltwriaeth, y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i reoli adnoddau dynol yn gynaliadwy yng Ngwastadeddau Gwent.

Bydd ffermwyr a phartneriaid prosiect sy'n cymryd rhan yn gweithredu i wella'r adnoddau naturiol yn yr ardal, yn enwedig gwaith rheoli dŵr a phridd. Ymysg y camau gweithredu i gyflawni'r canlyniadau hyn mae gwella a chreu cynefinoedd, cynnig cyfleoedd sylweddol i wella cyflwr y pridd, a sefydlu lleiniau cynefinoedd i bryfed peillio, a fydd hefyd yn gweithredu fel lleiniau clustogi ar hyd cyrsiau dŵr. Nod y prosiect yw manteisio ar natur ddaearyddol wastad yr ardal i wella cyfleoedd i feicio di-draffig, yn ogystal â mynediad presennol a chyfleusterau hamdden ar ffermydd, a chreu cyfleusterau newydd.

Cynllun Gwella Gwasanaethau Ecosystemau Fferm Ifan

Sefydliad Arweiniol: Fferm Ifan
E-bost: ffermifan@gmail.com  
Grant a Ddyfarnwyd: £696,352
Lleoliad: Ardal Uwch Conwy

Prosiect cydweithredol a arweinir gan ffermwyr sy'n defnyddio dull maint tirwedd ar waith rheoli tir i wella gwydnwch ecosystemau a'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Mae Fferm Ifan yn brosiect cydweithredu sy'n cynnwys 11 o ffermwyr, gyda'r nod o wella a rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy ac effeithlon. Mae'r prosiect yn cwmpasu tua 2,456 Ha ac mae'n cynnwys camau gweithredu rheoli tir newydd wedi'u targedu a fydd hefyd yn sicrhau buddiannau economaidd-gymdeithasol i'r 11 o ffermydd ac i gymuned wledig ehangach Fferm Ifan.

  • 11:50 Cyflwyniad Prosiect gan Rachel Harvey -

Cyflawni Cyfalaf Naturiol Mawndiroedd Cymru

Sefydliad Arweiniol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
E-bost: Rachel.Harvey@eryri.llyw.cymru
Grant a Ddyfarnwyd: £924,956
Lleoliad: Cymru Gyfan

Prosiect sy'n cydweithredu â rhanddeiliaid, yn cynnwys cymunedau, i drawsnewid a gwella mawndiroedd ledled Cymru. Ymysg y gwelliannau mae sefydlogrwydd ecolegol a rheoli mawndiroedd yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Y gobaith yw cyflwyno'r prosiect ar sail ofodol (e.e. dalgylchoedd) a sectorol (e.e. safleoedd gwarchodedig), yn ogystal â datblygu arbenigedd a gallu partneriaid i adfer mawndiroedd. Bydd y prosiect hwn yn helpu i gyrraedd targed 2020 o reoli mawndiroedd yn gynaliadwy. Bydd camau gweithredu cydweithredol yn sicrhau buddiannau amgylcheddol lluosog drwy gyfuno â dulliau presennol ynghyd â gwaith cyfalaf sy'n cwmpasu sectorau ‘anodd’ presennol adfer mawndiroedd, gan arwain at ddulliau rheoli cynaliadwy yn yr hirdymor a gefnogir drwy dalu am wasanaethau ecosystemau (TWE). Bydd gweithgareddau hanfodol eraill yn arwain at ddulliau mwy cydweithredol a chydlynol sy'n cwmpasu cyllid, hyfforddiant, addysg, caffael TWE, monitro a gweithgareddau ymchwil sy'n berthnasol i fawndiroedd Cymru.

 

  • 13:30 Sesiwn grŵp -
PDF icon

 

Dolau Dyfi

Sefydliad Arweiniol: Pont Cymru
E-bost: julia.korn@pontcymru.org 
Grant y gwnaed cais amdano: £467,114
Lleoliad: Iseldir dalgylch Dyfi, Gwynedd

Mae'r prosiect cydweithredol hwn yn canolbwyntio ar gyfuno adnoddau dynol â buddiannau iechyd a lles yn ardal Dyfi. Mae'r prosiect cydweithredol yn cynnwys Awdurdodau Lleol, perchnogion tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr RSPB, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Trefaldwyn a Cadwch Gymru'n Daclus a'i nod yw tyfu wrth i'r prosiect ddatblygu gyda mewnbwn gan y cyhoedd a'r cymunedau cyfagos. Mae'r ardal wedi gweld colled ddramatig yn ei glaswelltir lled-naturiol ar yr iseldir, ac mae ganddi hefyd lefelau uwch na Chymru/y DU o gyffredinrwydd clefyd y galon, diabetes, gordewdra ac iechyd meddwl gwael.

Nod y prosiect yw helpu i fynd i'r afael â'r heriau hyn drwy wella ardaloedd o'r dirwedd a dargedwyd a chysylltu pobl â natur. Gwneir buddsoddiad mewn 35 o ardaloedd er mwyn gwella gwaith rheoli cynefinoedd a hwyluso pori cynaliadwy er mwyn helpu gwydnwch ecosystemau. Bydd buddsoddiad hefyd ar gael ar gyfer gwaith mynediad a hyrwyddo mynediad, gan annog pobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio'r ardaloedd awyr agored a chreu mannau diogel a llefydd dymunol i ymweld â nhw. Ymysg y gweithgareddau eraill mae sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol, prosiectau celf a rhaglen "cerdded llwybr iechyd" bosibl. Ymysg y rheini a fydd yn cael budd o'r prosiect mae busnesau fferm a chymunedau gwledig, yn cynnwys drwy gyflogi contractwyr lleol a rhoi hwb i fusnesau twristiaeth lleol.
 

Tir a Môr Llŷn
Sefydliad Arweiniol:
Cyngor Gwynedd
E-bost: arweljones@gwynedd.llyw.cymru 
Grant a Ddyfarnwyd: £700,000
Lleoliad: Pen Llŷn

Daw'r prosiect cydweithredol hwn a arweinir gan Bartneriaeth Tirwedd Llŷn â grwpiau statudol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol ynghyd. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n effeithio ar yr adnoddau naturiol yn yr ardal. Mae'r cymunedau ym Mhen Llŷn yn dibynnu ar eu hadnoddau naturiol ac yn cael budd ohonynt.

Felly, nod y prosiect hwn yw cynnal ac ehangu llain barhaus o gynefin amrywiol o amgylch yr arfordir, gan weithio gyda ffermwyr i greu coridorau cysylltedd sy'n cysylltu â llwybr arfordir Cymru, gan gynnig cyfleoedd hamdden, sy'n fuddiol i iechyd. Bydd hefyd yn datblygu arferion da o ran rheoli dalgylchoedd a rheoli rhywogaethau goresgynnol, gan greu buddiannau economaidd a chymdeithasol sylweddol pan fydd yn cyd-fynd â gwelliannau amgylcheddol ac adnoddau economaidd-gymdeithasol fel Llwybr Arfordir Cymru. 

Bydd y Prosiect hefyd yn archwilio'r cysyniad o ‘daliadau ar sail canlyniadau’ gyda help tair o ffermydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y nod yw creu model ac annog y gymuned ehangach i dreialu'r dull gweithredu newydd a'i roi ar waith. Mae'r Bartneriaeth wedi datblygu dull cydweithredol ar lefel leol, gan alluogi pawb dan sylw i ymgysylltu â chynlluniau gwaith ymarferol, eu datblygu a'u rhoi ar waith yn gyflym a hwylus. Bydd y Bartneriaeth yn meithrin ymddiriedaeth ac yn annog gwaith cydweithredol cadarnhaol yn yr ardal er mwyn helpu i gyflawni'r prosiect hwn. Treulir amser yn ymgysylltu â'r gymuned ehangach drwy gynnal digwyddiadau lleol ac ymgysylltu ag ysgolion lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o fuddiannau'r gwaith.

O Dwyn i Dwyn: Rheoli Tirwedd Arfordirol
Pen-y-bont ar Ogwr yn Gynaliadwy

Sefydliad Arweiniol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost: Mark.Blackmore@bridgend.gov.uk
Grant a Ddyfarnwyd: £312,541
Lleoliad: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr

Mae ffocws y prosiect hwn yn cwmpasu tirweddau systemau Twyni Tywod Cynffig a Chwningar Merthyr Mawr yn ne Cymru. Y nod yw creu prosiect cydweithredol parhaus o reolwyr tir a gwarchodfeydd, perchnogion tir, defnyddwyr tir a'r rheini sy'n cael budd o'r tir er mwyn helpu i reoli'r dirwedd arfordirol hon yn gynaliadwy i wella bioamrywiaeth a sicrhau buddiannau i'r gymuned leol. Bydd gwaith rheoli cynefinoedd yn helpu i wella gwydnwch yr ecosystem twyni gan ganolbwyntio ar fwy o fioamrywiaeth, gwell cysylltedd a sefydlogrwydd. Bydd y prosiect yn gwella golwg a hygyrchedd yr ardal i ymwelwyr ac yn gwella eu profiad drwy gyflwyno gwell arwyddion a chyhoeddusrwydd i lwybrau cerdded ac atyniadau. Nod y prosiect yw gwella cyfleoedd iechyd a lles yn yr ardal i'r eithaf drwy lwybrau cerdded hygyrch a gaiff eu cynnal yn dda a mannau gwyrdd o ansawdd. Bydd y prosiect hefyd yn cydweithredu â busnesau lleol fel y clwb golff gan eu cefnogi â'u perfformiad cynaliadwy parhaus gyda'r nod o gyflawni label Eco wedi'i ardystio gan Sefydliad Amgylcheddol Golff. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys plannu a chynaeafu coetir ac archwilio'r posibilrwydd o ddefnyddio'r coed fel ffynhonnell adnewyddadwy o danwydd.