- Math o ddigwyddiad:
-
Entrepreneuriaeth Menywod– Sut i Ymgysylltu?
- Dyddiad ac amser:
-
-
- Lleoliad:
-
Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY
- E-bost:
Mae llawer iawn o fentrau a gyllidir yn gyhoeddus ar gyfer datblygu busnesau ond mae rhai pryderon wedi cael eu mynegi ynghylch y ffaith nad ydym o bosibl mor effeithiol ag y gallen ni fod a’n bod o bosibl yn dyblygu ymdrechion neu ddim yn manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael. Wrth i’r Fframwaith Entrepreneuriaeth Menywod a’r gwaith o ddatblygu fframweithiau rhanbarthol ddatblygu– mae’n gyfle i ystyried beth sydd ar gael ac i drafod rhai o’r pynciau/mythau sy’n codi mewn sgyrsiau gan gynnwys
- Dulliau plwyfol
- Diffyg gwybodaeth gan rwydweithiau
- Diffyg gwaith cysylltu
- Diffyg diddordeb yn yr ardaloedd llai poblog fel Canolbarth Cymru
- Diffyg rhwydweithio cydweithredol er mwyn ymdrin â’r gallu i gynhyrchu neu brosesu llawer, sicrhau cysondeb a sicrhau ansawdd
- Beth yn union yw busnes Cymreig
Bydd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol gan fusnesau/busnesau newydd ynghylch sut y maent wedi llwyddo i dderbyn cymorth yng Nghanolbarth Cymru.
Diddordeb mewn dechrau eich busnes eich hun neu weithio i chi eich hun? P’un a ydych mewn addysg, yn gweithio neu’n paratoi eich cam nesaf, gallwn helpu! Mae Syniadau Mawr Cymru yn gallu helpu chi. Gwybodaeth yma: https://businesswales.gov.wales/bigideas/cy