Math o ddigwyddiad:
Virtual event
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Microsoft Teams
E-bost:
Wool event

*Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Mark Hogarth, Cyfarwyddwr Creadigol Harris Tweed Hebrides yn ymuno â ni fel siaradwr gwadd yn y digwyddiad hwn*

Mae gan Lywodraeth Cymru, drwy Rwydwaith Gwledig Cymru, grŵp trafod cyffrous newydd am wlân a thecstilau, eu defnyddiau a’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru a bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf ar 24 Tachwedd, 10:00 – 12:30.

Mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn flaenoriaeth graidd i Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi addo y bydd mwy o wlân o Brydain yn cael ei ystyried i inswleiddio adeiladau cyhoeddus. Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths:

“Rwy’n falch o ddweud bod tîm rheoli cyfleusterau Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried defnyddio gwlân yn ehangach yn ein hystâd yn y dyfodol, ar yr amod ei fod yn bodloni’r profion a’r ardystiadau cydymffurfio gofynnol.”

Nod y Grŵp Trafod yw adeiladu ar rwydweithiau presennol a chreu partneriaethau newydd i ysgogi syniadau newydd ac annog cydweithio i ddatblygu a chryfhau cadwyni cyflenwi gwlân yng Nghymru; bydd ychwanegu gwerth a lleihau gwastraff yn nodwedd allweddol.

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Gweinidog ar gronfeydd Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru, bydd cyfle i geisio am gronfeydd i gefnogi eitemau cyfalaf untro drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig a chronfeydd pellach i ddatblygu camau gweithredu ar y cyd i gryfhau cadwyni cyflenwi drwy’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio. Bydd manylion pellach am y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Os hoffech gymryd rhan mewn trafodaethau pellach am y pwnc hwn, cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad drwy Eventbrite,
https://www.eventbrite.co.uk/e/grwp-trafod-gwlan-tecstilau-wool-textile-discussion-group-tickets-128845108187

Os hoffech gymryd rhan mewn trafodaethau pellach am y pwnc hwn, cysylltwch â Rhwydwaith Gwledig Cymru.