Math o ddigwyddiad:
Gweithdy Rhithiol / Eich barn ar ddatblygu Fforest Genedlaethol yng Nghymru
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Microsoft Teams
E-bost:
coed yn eich gymuned

Roedd 30 o gynadleddwyr yn cymryd rhan yn y gweithdy rhithiol ar 2 Hydref gyda rhyngweithio gwych gan y gynulleidfa.  

Cafodd y Rhaglen Fforest Genedlaethol ei hamlinellu ar gyfer y cynadleddwyr, a chodwyd rhai sylwadau a chwestiynau diddorol.   
 
Cafwyd sesiwn grŵp, ble y cafodd y cynadleddwyr eu rhannu yn dri grŵp i drafod Canlyniadau y Fforest Genedlaethol. Yn dilyn y sesiwn grŵp, cafwyd adborth gan bob grŵp, gan godi rhai pynciau, cwestiynau ac awgrymiadau diddorol.  

Roedd y prif sylwadau o’r sesiwn adborth yn cynnwys – 

•    Sut fyddwn ni’n sicrhau bod y coetiroedd yn creu y cynefin iawn?
•    A fydd tai trefol yn rhan o’r Fforest Genedlaethol?
•    Pwysigrwydd cael amrywiol goetiroedd sydd wedi’u cynllunio yn dda.  
•    Pwysigrwydd integreiddio rheoli coetiroedd o fewn addysg.  

Caiff pob cwestiwn a sylwadau o’r digwyddiad eu casglu a’u defnyddio wrth fynd ymlaen.  

Mae Agenda y digwyddiad i’w weld yma:

Cyflwyniadau:

Mae sleid Canlyniadau y Fforest Genedlaethol i’w weld yma:

Rhoddodd Chris Hoyle o Gronfa’r Loteri Genedlaethol drosolwg o’r Gronfa Coetiroedd Cymunedol. Mae’r cyflwyniad i’w weld yma: