Math o ddigwyddiad:
Gweithdy Rhithiol / Eich barn ar ddatblygu Fforest Genedlaethol yng Nghymru
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Microsoft Teams
E-bost:
Mwy na just coed

Cyhoeddodd Mark Drakeford y Prif Weinidog ei fwriad i ddatblygu Fforest Genedlaethol i Gymru yn ei ymrwymiadau yn ei faniffesto yn 2018.  Lansiodd yn swyddogol Raglen Fforest Genedlaethol ar 12 Mawrth 2020.  Gyda Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, disgrifiodd uchelgais am Goedwig Genedlaethol sy’n ymestyn hyd a lled Cymru, gan gyhoeddi y byddai cyfnod trafod eang yn dechrau, fel y bydd creu Fforest Genedlaethol i Gymru yn ‘…ymdrech ar y cyd gyda llywodraeth, busnesau a chymunedau i gyd yn gweithio tuag at nod gyffredin’.   

Mae’r datganiad i’r wasg i’w weld drwy ddilyn y ddolen hon: https://llyw.cymru/gydan-gilydd-gallwn-ni-greu-coedwig-genedlaethol-ar-hyd-lled-cymru-y-prif-weinidog-mark-drakeford
 
Cynhaliwyd y Gweithdy Rhithiol i helpu i ddeall barn rhanddeiliaid unigol a safbwyntiau sefydliadau perthnasol sy’n gysylltiedig â datblygu Fforest Genedlaethol yng Nghymru.  Roedd y Gweithdy yn galluogi rhanddeiliaid i gyfrannu eu syniadau a helpu i greu Coedwig Genedlaethol fydd nid yn unig yn hyrwyddo plannu coed a rheoli coetiroedd newydd a phresennol yn broactif yng Nghymru, a chynnig cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch economaidd traddodiadol ac arloesol, ond bydd hefyd yn cysylltu pobl â’r coed a’r coetiroedd o’u hamgylch a darparu cynefinoedd ar gyfer natur.  

I gyflawni’r uchelgais hwn roedd yn hanfodol bod y cynigion a’r cynlluniau sydd i’w datblygu ar gyfer Fforest Genedlaethol yn gweithio i bawb.  

Uchafbwyntiau’r Digwyddiad

Roedd 51 o gynadleddwyr yn cymryd rhan yn y gweithdy rhithiol ar 3 Medi, gyda rhyngweithio rhagorol gan y gynulleidfa.  

Rhoddwyd amlinelliad o’r Rhaglen Fforestydd Cenedlaethol i’r cynrychiolwyr a chodwyd rhai cwestiynau diddorol.  Cafodd rhai sylwadau pwysig eu bwydo yn ôl a fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol, a’r rhain yn cynnwys - 
 

  • A ddylai ‘Mwy o goetiroedd’ fod yn ganlyniad?
  • A ddylai gwell bioamrywiaeth gael ei gynnwys fel canlyniad?
  • Ydy ni yn cynnwys gwrychoedd, coed ar strydoedd a pherllannau fel rhan o’r Goedwig Drefol?  

Caiff pob cwestiwn a sylwadau o’r drafodaeth Microsoft Teams eu casglu a’u defnyddio yn y dyfodol.

Cynhaliwyd dau Sesiwn Grŵp yn ystod y Gweithdy a chafodd y cynrychiolwyr eu rhannu yn ddau grŵp i drafod - 

  • Canlyniadau Fforestydd Cenedlaethol
  • Egwyddor Brandio

Yn dilyn pob sesiwn, cafodd yr adborth a’r cwestiynau eu bwydo yn ôl i bob cynrychiolydd gyda rhai pynciau, ymholiadau ac awgrymiadau defnyddiol iawn yn cael eu codi.  

Mae Gweithdy ychwanegol i ail-gysylltu gyda’r prif randdeiliaid yn cael ei gynllunio ar gyfer dechrau Hydref.  

Agenda (Gweminar Rhaglen y Fforest Genedlaethol 03/09/20

Cyflwyniad:

Egwyddorion Brandio y Fforest Genedlaethol – Anna Taylor - Prif ddylunydd Jarvis; Carys Bryant Rheolwr Marchnata: Jamjar.  

Brandio y Fforest Genedlaethol - Pecyn 1 – Poster (Poster A3)
Brandio y Fforest Genedlaethol - Pecyn 1 – Taflen (Taflen A5)