Math o ddigwyddiad:
Virtual workshop
Dyddiad ac amser:
Lleoliad:
Microsoft Teams
E-bost:
Wool event

Mae rheoli adnoddau naturiol yn ganolog i flaenoriaethau Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru. Mae’n cydnabod, drwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, meithrin arloesi, dulliau o greu tiriogaethau cytbwys, manteisio ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, gallwn wella cydnerthedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein cymunedau.    

Er mwyn cefnogi Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru i gyflawni ei hamcanion a’i nodau mae Rhwydwaith Gwledig Cymru wedi cynnal tri digwyddiad hyd yma ar gadwyni cyflenwi.  Thema’r rhain oedd Gwlan/Tecstiliau.  

Ei nod oedd adeiladu ar rwydweithiau sy’n bodoli eisoes a chreu partneriaethau newydd i ysgogi syniadau newydd ac annog cydweithio i ddatblygu a chryfhau cadwyni cyflenwi gwlan; roedd ychwanegu gwerth a lleihau gwastraff yn brif nodweddion.   

Cynhaliwyd y Grŵp Trafod Gwlan a Thecstiliau diweddaraf ar 29 Medi ar Microsoft Teams. Roedd 30 cynadleddwr yn bresennol oedd yn cynnwys ystod eang o randdeiliaid ar draws y gadwyn gyflenwi gan gynnwys Bwrdd Gweithgynhrychu Gwlan Prydain ac Undebau Ffermio Cymru. Cynhaliwyd sesiynau grwpiau i drafod cyfleoedd, rhwystrau i ddatblygu, eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol ac anghenion cefnogi busnes y Diwydiant Gwlan yng Nghymru.    

Mae’r pandemig Covid 19 wedi tynnu sylw at gadwyni cyflenwi, yr angen i gynyddu cydnerthedd lleol a gwarchod adnoddau gwerthfawr.  Er mwyn cefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Adferiad Gwyrdd yng Nghymru sy’n gwarchod yr amgylchedd ac yn caniatáu i’n heconomi wledig ffynnu.  

Mae gwaith y grŵp hwn yn bwysig gan y bydd yn tynnu sylw at gyfleoedd yng Nghymru ar gyfer buddsoddi gan gynnwys: 
 

  • Cefnogi a chreu rhagor o amrywiaeth i gynyddu cydnerthedd yr economi wledig
  • Cefnogi dulliau arloesol a chydweithio
  • Cryfhau a datblygu cadwyni cyflenwi lleol 
  • Gwasanaethu y newid mewn arferion defnyddwyr tuag at gynnyrch a chyrchfannau lleol
  • Momentwm i gyflymu y pontio tuag at economi carbon isel ar gyfer cymunedau gwledig

Mae grŵp y cadwyn gyflenwi Gwlan / Tecstiliau yn bwriadu creu “Fframwaith ar gyfer  Gwlan Cymru”  

Mae’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynllunio, ond os ydych yn dymuno bod yn rhan o’r daith gyffrous hon cysylltwch â Rhwydwaith Gwledig Cymru.  Bydd popeth yn cael ei gyhoeddi ar wefan Rhwydwaith Gwledig Cymru.  

Yn y cyfamser mae nifer o gyfleoedd ar gael yn fuan fydd yn berthnasol i’r busnesau Gwlan a Thecstiliau, mae’r rhain wedi’u rhestru isod:  

Cydweithredu a Chynllun Datblygu y Gadwyn Gyflenwi, gan anelu at Weithredu Peilot ar gyfer Twf Gwyrdd a’r Economi Gylchol.  Bydd hyn yn cefnogi gweithredu peilot i alluogi dull ar gyfer y gadwyn gyflenwi gyfan.  Wedi ei gynllunio i ychwanegu gwerth ac i gynnwys naws am le a threftadaeth ddiwylliannol yng Nghymru drwy brosesu a marchnata cynnyrch ar wahân i fwyd.  

Nod y Cynllun Datblygu Cydweithio a’r Gadwyn Gyflenwi yw rhoi cymorth I gyrff cyhoeddus, busnesau, sefydliadau neu gymunedau i ddatblygu dulliau cydweithredol ar draws y sector gydag ystod o randdeiliaid o’r maint iawn i gyflawni sawl nod a chanlyniad drwy “wneud i bethau newydd ddigwydd”. Bydd cyllideb refeniw a chyfalaf o £1,000,000, i agor ym mis Rhagfyr 2020.

Y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig

Ar gyfer: 

Busnesau fferm sy’n bwriadu arallgyfeirio i weithgareddau nad ydynt yn amaethyddol; busnesau presennol nad ydynt yn amaethyddol a chwmnïau newydd, wedi anelu at gryfhau y gadwyn gyflenwi ar gyfer cynnyrch ERA a chreu a datblygu mentrau micro a bychain nad ydynt yn amaethyddol ac arallgyfeirio i weithgareddau nad ydynt yn amaethyddol.  Bydd cronfa cyllid cyfalaf o £1,000,000 ar gael i ariannu 40% o gostau cymwys.  Mae’r cyfnod i agor ym mis Tachwedd / Rhagfyr 2020.  

Bydd y dyddiadau ar gyfer y cyfnodau i’w gweld yma unwaith y byddwn wedi cytuno arnynt: https://llyw.cymru/rhaglen-datblygu-gwledig-2014-i-2020-dyddiadau-ymgei…

Mae’r uchod yn ychwanegol i’r ffynonellau canlynol o gymorth: