Mae un arall o gapeli hanesyddol Blaenafon wedi'i achub rhag dirywiad pellach yn sgil derbyn nifer o grantiau, gan gynnwys un gan y Cyngor Tref.
Adeiladwyd Capel y Bedyddwyr Bethel ar Stryd y Brenin ym 1829, ond roedd perygl y gallai'r adeilad ddymchwel ar ôl i bydredd sych ddinistrio strwythur cynnal y to. Roedd angen ffenestri newydd yn ogystal gan fod y rhai presennol wedi pydru.
Yn sgil hyn nid yw'r prif adeilad wedi cael ei ddefnyddio ers dwy flynedd, a chaiff y gwasanaethau eu cynnal yn ysgoldy'r capel.
Darllenwch fwy (Seasneg yn Unig).