Woodland

Bydd nawfed cyfnod ymgeisio Glastir - Adfer Coetir yn agor ar 18 Mai 2021, gyda chyllideb o £1 filiwn. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr a all gwblhau’r holl waith cyfalaf a’r holl waith plannu erbyn 31 Mawrth 2023. 

Mae cynllun Glastir - Adfer Coetir yn darparu cyllid tuag at waith cyfalaf sy’n gysylltiedig â gwaith ailstocio, ffensio a gwaith cysylltiedig ar safleoedd ble mae llarwydd a hyd at 50% o rywogaethau eraill. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol drwy Glastir - Adfer Coetir tuag at ailstocio coetiroedd sydd dan fygythiad o Phytophthora ramorum neu y mae’r clefyd wedi effeithio arnynt. Caiff ymgeiswyr ar gyfer Glastir – Adfer Coetir eu dewis ar sail derbyn Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (SPHN) neu lle mae rhywogaethau llarwydd wedi’u cynnwys ar y drwydded cwympo coed. 

Bydd cyfnod datgan diddordeb yng nghynllun Glastir – Adfer Coetir yn dod i ben am hanner nos ar 25 Mehefin 2021. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma; Grantiau a thaliadau gwledig | Is-bwnc | LLYW.CYMRU