Hill Ram Scheme

Mae gan ffermwyr mynydd Cymru gyfle arall i gymryd rhan mewn cynllun arloesol i wella geneteg defaid.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd, a gafodd ei lansio flwyddyn yn ôl, yn cael ei redeg gan Hybu Cig Cymru (HCC) ac mae'n cynnig cymorth i ffermwyr mynydd Cymru gofnodi perfformiad eu diadelloedd trwy ddefnyddio technoleg prawf tras DNA.

Y nod yw  gwella perfformiad diadelloedd a’u gwneud yn fwy effeithlon. 

Ar hyn o bryd mae 29 o ddiadelloedd ledled Cymru, gan gynnwys saith Diadell Arweiniol, yn cymryd rhan yn y cynllun sydd yn elfen o Raglen Datblygu Cig Coch HCC.  Mae’r rhai sy’n cymryd yn cael cymorth i gymryd samplau DNA , hyfforddiant i’w helpu i ddeall a dehongli’r canlyniadau, gweithdai arbenigol a digwyddiadau hyfforddi eraill.

Mae’r Cynllun yn cael ei ariannu fel rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae HCC yn ceisio cael 20 o ddiadelloedd ychwanegol i ymuno â’r Cynllun, ac mae modd mynegi diddordeb ar wefan HCC tan 31 Mawrth.

Dywedodd Gwawr Parry o HCC, sy’n cydlynu’r Cynllun Hyrddod Mynydd:

“Ar ôl cyfnod recriwtio llwyddiannus iawn yr adeg yma’r llynedd, rydym yn falch iawn o agor ffenestr Mynegi Diddordeb arall i ymuno â’r Cynllun yn 2020."

“Gall y tir uchel yng Nghymru fod yn anodd I’w ffermio.  Nod y Cynllun Hyrddod Mynydd yw helpu ffermwyr mynydd i gofnodi perfformiad eu diadelloedd trwy ddefnyddio'r dechnoleg dras DNA ddiweddaraf, fel y gallan nhw wneud eu diadelloedd yn fwy effeithlon a gwella’u perfformiad heb wneud fawr o newid i’r ffordd maen nhw’n rhedeg eu ffermydd.”

Esboniodd Gwawr fod y Cynllun yn addas nid yn unig i’r rhai sydd am fagu a gwerthu hyrddod ond hefyd i ffermwyr sydd am dargedu gwahanol elfennau o berfformiad eu diadelloedd:

‘Mae yna sawl rheswm pam mae ffermwyr wedi ymuno â’r Cynllun. Mae nifer yn bwriadu bridio hyrddod ag EBVau hysbys a gwell tra bod eraill yn canolbwyntio ar bwysau’r ŵyn, gwella perfformiad y mamogiaid a gwella effeithlonrwydd cyffredinol y ddiadell.  Yn y pen draw, gall ffermwyr ddefnyddio’r data a’r canlyniadau’r o’r Cynllun at ddibenion eu systemau a’u cynlluniau busnes eu hunain.’

Mae gan Rhidian Glyn, sy'n ffermio ger Machynlleth ym Mhowys, un o’r saith o Ddiadelloedd Arweiniol yn y Cynllun Hyrddod Mynydd.  

 

Rhidian Glyn

 

Esboniodd pam y penderfynodd ymuno â’r Cynllun: 

'Rwy’n gobeithio gwella effeithlonrwydd y mamogiaid trwy gymryd rhan yn y cynllun. Bydd yn golygu y bydd yn hawdd adnabod yr anifeiliaid gorau a’u hepil.  Yr un mor bwysig, bydd modd tynnu’r perfformwyr gwaethaf o’r ddiadell fridio.’

Ychwanegodd Gwawr: ‘Byddwn yn annog pob ffermwr sydd â diddordeb yn y Cynllun i fynegi diddordeb cyn Mawrth 31 neu i gysylltu â HCC ar 01970 625050 i gael rhagor o wybodaeth.’ 

Mae modd gweld Ffenestr Mynegi Diddordeb y Cynllun Hyrddod Mynydd yma.