Amethyst

Mae Amethyst yn brosiect Theatr Byd Bychan, sydd wedi ei leoli yn Aberteifi. Ry’n ni’n rhedeg gweithdai ar gyfer pobl ifanc sydd wedi profi materion yn ymwneud â hunan-niweidio, gofid, iselder, hunan-hyder a hunan-barch isel. Mae Amethyst hefyd yn gweithio’n eang ym maes lles emosiynol.

Cyn sefydlu Amethyst, roedd Theatr Byd Bychan hefyd yn gweithio gyda’r prosiect Amber yng Nghaerdydd. Felly, fe ddatblygodd Theatr Byd Bychan y profiad o weithio gyda phobl ifanc a oedd yn profi materion yn ymwneud â hunan-niweidio, gofid, iselder a bwlio. Roedd y prosiect Amber hefyd yn ymestyn allan at grwpiau ar y cyrion, megis pobl ifanc mewn gofal, pobl ifanc digartref,  pobl ifanc LGB, trawsrywiol ac an-neuaidd (non-binary). Mae Amethyst yn darparu gweithdai tebyg trwy fodel llwyddiannus iawn yng Ngorllewin Cymru.

Eleni, yn ogystal â chynnal gweithdai mewnol, ry’n ni’n rhedeg cynllun peilot i gynnal gweithdai mas mewn ysgolion yng Ngheredigion, i weithio gyda oed ifancach ynghylch materion yn ymwneud â lles a iechyd meddyliol.

Mae’r technegau ry’n ni’n eu defnyddio yn cynnwys:

  • Theatr Fforwm (defnyddio’r theatr i archwilio profiadau a straeon go iawn pobl)
  • Theatr Ddelwedd (defnyddio delweddau llonydd i archwilio ein teimladau a phrofiadau)
  • Elfennau o Ddadansoddi Trafodaethau (Transactional Analysis) – megis edrych ar rôl Rhiant/ Oedolyn/ Plentyn, a Thriongl y Ddrama, sef edrych ar rôl y dioddefydd, yr erlidydd a’r achubydd
  • Elfennau o Therapi Ymddygiad Cognitif neu CBT (e.e. y ffordd mae ein teimladau, meddyliau ac ymddygiadau yn effeithio ei gilydd, a ffilterau meddyliol negyddol)
  • Cytundeb Grŵp (er mwyn darparu gofod diogel ac anfeirniadol)
  • Llawer o gemau hwyliog (i wneud i ni chwerthin a rhyddhau endorffinau)

Mae Amethyst yn defnyddio’r cyfuniad unigryw yma o dechnegau i edrych ar ein perthynas â’n gilydd, gydag eraill yn ein bywyd a’n cymdeithas, ac i ddod o hyd i ddatrysiadau positif i’r problemau sy’n ein wynebu. Lawn mor bwysig â’r cynnwys yw y gofod ry’n ni’n ei gynnig, sy’n ddiogel, cefnogol ac anfeirniadol. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y bobl ifanc ry’n ni’n gweithio gyda nhw yn teimlo bod clust i wrando, a’u bod yn gallu mynegi eu hunain ac archwilio eu meddyliau a theimladau yn ddiogel.

Mae adborth a dderbyniwyd gan gyfranogion Amethyst hyd yn hyn yn dangos eu bod yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, a bod hyn yn rhoi ffyrdd positif i archwilio teimladau a mynegi eu hunain. Mae rhai a gymerodd ran yn y prosiect hefyd yn adrodd nôl bod eu hyder a hunan-barch wedi cynyddu.

Cyswllt: Deri deri@smallworld.org.uk 01239 615 952.