buchod

Dylai ffermwyr gwartheg wneud yn siŵr eu bod yn defnyddio dulliau cynaliadwy wrth drin anifeiliaid ifainc am lyngyr main (Ostertagia a Cooperia), er mwyn osgoi ymwrthedd i gynhyrchion dilyngyru, meddai’r milfeddyg amaethyddol, Thomas Searle.

Yn ddiweddar, mae Rheoli Llyngyr yn Gynaliadwy (COWS) wedi diweddaru ei ganllawiau ar reoli llyngyr, gan nodi y bydd trin lloi sy’n cael eu geni yn yr hydref neu’r gwanwyn o fewn tair wythnos iddynt gael eu troi allan yn atal cyfnod brig o larfa heintus ar borfeydd ganol yr haf.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC), un o bartneriaid COWS, yn annog ffermwyr i fod yn rhagweithiol wrth reoli iechyd eu buchesi a’u praidd drwy’r prosiect Stoc+. Mae hwn yn un elfen o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP), sef menter dros gyfnod o bum mlynedd sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd i geisio gwella’r sector cig coch yng Nghymru.

Mae gan brosiect Stoc+ nifer o lysgenhadon o blith ffermwyr a milfeddygon sydd yn cefnogi'r prosiect, gan gynnwys Thomas Searle o Bractis Milfeddygol De Cymru yn Rhondda Cynon Tâf.

“Pan fo’r maeth yn dda a does dim afiechydon eraill yn bresennol, llyngyr gastroberfeddol yw’r prif ffactor wrth bennu cyfradd twf yr anifeiliaid sy’n pori,”

Meddai Mr Searle.  

“Felly, er mwyn rheoli’r llyngyr, dylid pwyso’r anifeiliaid yn rheolaidd a dim ond trin y rhai nad ydyn nhw'n tyfu yn ôl y disgwyl. Bydd hyn yn golygu llai o driniaeth yn gyffredinol a bydd yn rhoi imiwnedd i’r rhai na chafodd eu trin."

Mae Mr Searle yn ychwanegu:

“Mae modd gwneud hyn gyda golwg ar faint o borfa sydd ar gael a natur y tir pori.

“Rydyn ni’n deall ei bod hi’n anodd ambell waith osgoi troi anifeiliaid allan ar borfa sydd wedi'i halogi. Os felly, gall yr anifeiliaid elwa o driniaeth cyn cael eu troi allan, gan gynnwys bolws neu lacton macroseiclig hir-weithredol (ML). Mae’n well siarad â’r milfeddyg er mwyn dewis yr hyn sydd orau ar gyfer y fferm.

“Efallai y bydd ffermwyr sydd â mwy o hyblygrwydd yn eu cylchdro pori yn gallu monitro twf, trwy bwyso gwartheg cig eidion neu fesur ffrâm yr heffrod, a dim ond trin yr anifeiliaid os nad oes digon o dwf."

Mae Swyddog Gweithredol Iechyd Praidd a Buches HCC, Dr. Rebekah Stuart yn cefnogi'r canllawiau sydd wedi'u diweddaru:

“Cynghorir ffermwyr i sefydlu cynllun iechyd i’r fuches ar ddechrau'r tymor pori os nad oes un eisoes ar waith, a’i adolygu’n aml i fonitro’r perygl o barasitiaid.

“Mynnwch air â'ch milfeddyg am y cynhyrchion mwyaf priodol i'w defnyddio a chofiwch y canlynol, y pump C: defnyddiwch y cynnyrch cywir, y ddos ​​gywir, ar yr anifail cywir, ar yr amser cywir ac yn y ffordd gywir.”

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch rheoli llyngyr main yn ystod y tymor pori hwn ar gael ar wefan COWS

Cefnogir Stoc+ gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.