Marloes Sands - National Trust

Fe fydd Traeth Marloes yn ffocws prosiect Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn gwella profiad ymwelwyr ar y safle wrth i boblogrwydd y traeth hwn yn Sir Benfro gynyddu.

Mae’r elusen gadwraeth wedi sicrhau grant o £120,000 tuag at y prosiect trwy gynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth Llywodraeth Cymru, dan nawdd Cronfa Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a noddir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar wella isadeiledd maes parcio Traeth Marloes a’r ardal o gwmpas er mwyn creu croeso bendigedig ar gyfer y miloedd o ymwelwyr sy’n mwynhau dod i’r safle bob blwyddyn. 

Bydd y prosiect, sy’n cynnwys adeilad newydd i groesawu ymwelwyr, gwelliant i arwynebedd y maes parcio ac adnewyddu arwyddion, gwybodaeth a dehongliad, yn digwydd eleni fel bod y cyfan yn orffenedig ac ar agor ar gyfer y Pasg 2020.

Wrth siarad am y gwaith, meddai Mark Underhill, Rheolwr Cefn Gwlad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Sir Benfro:

“Ry’n ni wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau nawdd trwy’r cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth.

“Wedi croesawu dros 30,000 o ymwelwyr llynedd, ry’n ni’n cydnabod bod mwy a mwy o bobl yn mwynhau dod i ddarganfod Traeth Marloes a’r penrhyn ehangach. 

“Bydd y nawdd hwn yn ein helpu i fuddsoddi a gwella ein isadeiledd croesawu ymwelwyr er mwyn cynorthwyo ymwelwyr i wneud y mwyaf o’r man arbennig hwn, p’un ai eu bod yn dod yma i wylio bywyd gwyllt, closio at fyd natur neu i fwynhau diwrnod ar lan y môr.

“Byddwn yn gweithio’n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro, cymuned Marloes a chyd-fudiadau er mwyn sicrhau bod yr isadeiledd yn cymryd ei le yn dda o fewn yr amgylchedd lleol ac yn cael ei werthfawrogi gan drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Mae’r prosiect yn dilyn buddsoddiad yr Ymddiriedolaeth yn Runwayskiln, sef ffermdy, caffi a chyfres o adeiladau llety ger Traeth Marloes, a roddwyd ar osod yn llwyddiannus ar gyfer defnydd busnes a phreswyl yn 2017. Cefnogwyd y prosiect hefyd gan y Gronfa Busnes Micro Bychan trwy’r Rhaglen Datblygu Gwledig.
 
Meddai’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae’r cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS) yn ffordd wych i ni helpu y sector dwristiaeth i wneud gwelliannau i gyfleusterau lleol a mwynderau.
 
“Yn aml iawn, fe fydd pobl yn sylwi ar gyfleusterau megis llwybrau, cyfleusterau cyhoeddus, arwyddion a meysydd parcio dim ond pan fydd y ddarpariaeth yn brin neu o safon isel – sy’n dangos eu bod yn rhan bwysig o brofiad yr ymwelydd

“Mae prosiectau megis yr un hwn yn Nhraeth Marloes yn ei gwneud yn haws i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau amgylchedd naturiol Cymru.”

Wrth ymateb i’r newyddion, meddai Christopher Jessop, Is-Gadeirydd Cyngor Cymuned Marloes a San Ffraid:

“Mae ein cymuned yn falch i fod yn cydweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar y prosiect hwn.

“Ry’n ni’n gwerthfawrogi’r cyfraniad ry’n ni wedi gallu ei wneud hyd yn hyn wrth helpu’r Ymddiriedolaeth i ddatblygu’r cynllun ac edrychwn ymlaen at barhau â’r ddeialog a fydd yn caniatáu i’r prosiect elwa o wybodaeth a phrofiad y trigolion lleol.”