Heddiw, diolchodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, i’r llu o wirfoddolwyr cymunedol ledled Cymru sy’n gweithio’n galed i ofalu amdanoch chi a’ch anwyliaid a’ch cadw’n saff yn y cyfnod anodd iawn hwn.

Dywedodd Jane Hutt:

Mae wedi cynhesu fy nghalon i glywed am yr holl ffyrdd y mae cymunedau wedi tynnu ynghyd ym mhob cwr o Gymru, drwy gydol pandemig Covid-19, i ddiogelu a helpu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed.

Mae’r rheolau Aros Gartref yn anodd i bawb, ond maen nhw yno i arafu lledaeniad y feirws a’n cadw ni i gyd yn saff, diogelu’r GIG ac achub bywydau.

Rydyn ni’n parhau i wynebu sefyllfa ddifrifol iawn. Mae nifer yr achosion yng Nghymru yn uchel iawn ac mae ein GIG o dan bwysau gwirioneddol, ond mae grwpiau cymunedol ac elusennau yn dal i ofalu am bobl sy’n yn hunanynysu, neu bobl y mae angen cymorth arnyn nhw.

Dw i am ddweud diolch i’r holl wirfoddolwyr cymunedol sy’n gweithio mor galed, a dweud bod yna gymorth ar gael ichi yn lleol os oes ei angen arnoch chi. Mae yna bobl all eich helpu drwy ddod â bwyd a phresgripsiynau ichi, neu eich ffonio’n rheolaidd am sgwrs.

Os hoffech helpu yn eich cymdogaeth leol, neu os oes angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â’ch cyngor gwirfoddol sirol lleol – fe allan nhw eich rhoi mewn cysylltiad â phobl sy’n gweithio yn eich cymuned.

Dyma rai enghreifftiau o’r cymorth sydd ar gael, nawr, yn eich ardal chi. Fy neges i i chi yw: daliwch ati i helpu a chefnogi eich cymunedau tra’n aros gartref. Mae gwybod bod yna bobl sydd â gofal amdanom yn gwneud gwahaniaeth enfawr inni i gyd.

  • Mae Nanny Biscuit yn fudiad cymunedol yn Sir y Fflint sydd wedi sefydlu ffyrdd clyfar o ddarparu bwyd a chymorth emosiynol i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned, o gadw cysylltiad â phobl yn eu cartrefi a dosbarthu cardiau Nadolig i ddanfon prydau bwyd poeth i’r digartref.
  • Mae dros 80 o aelodau yng Nghôr Meibion y Bont-faen ym Mro Morgannwg. Dynion hŷn yw llawer ohonyn nhw sydd wedi colli aelodau o’u teulu, ac sy’n gweld eisiau rhwydwaith cymorth clos. Maen nhw wedi cynnal ymarferion côr, cystadlaethau coginio rhithiol, noson goctels, cystadleuaeth farddoniaeth a jamborî cymdeithasol Nadolig dros Zoom, gan gefnogi ffrindiau a chymdogion a fyddai wedi bod ar eu pen eu hunain fel arall.
  • Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint yn wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol sy’n delio ag atgyfeiriadau gan weithwyr cymdeithasol, meddygon teulu a nyrsys ardal, ac sy’n cefnogi unigolion sy’n eu cyfeirio eu hunain ynghylch unrhyw angen iechyd, gofal cymdeithasol neu gymorth lles.

Maent wedyn yn cyfeirio’r unigolyn i wasanaethau cymorth gwirfoddol a chymunedol priodol.

  • Mae Eglwys Vineyard wedi bod yn rhan o brosiectau dyngarol ac elusennol yng Nghaerdydd ers tua 12 mlynedd. Yn ystod pandemig Covid-19, ehangodd yr eglwys ei gwasanaethau i ddarparu pecynnau gofal a chyflenwadau bwyd i bobl mewn angen.
  • Mae Partneriaeth Ogwen yn fenter gymdeithasol ym Methesda, sydd wedi rhoi ei phrosiectau adfywio i gefnogi’r amgylchedd, y gymuned a’r economi leol i’r neilltu dros dro er mwyn gallu canolbwyntio ar gefnogi’r gymuned leol yn uniongyrchol.

Mae ei gwasanaethau yn cynnwys cynllun ‘Cyfaill Cymunedol’ sy’n danfon prydau poeth a chynnig sgwrs ar garreg y drws; platfform ar-lein, lle gall busnesau lleol werthu cynnyrch sydd wedi’i dyfu’n lleol, sydd wedi cadw £35,000 yn yr economi leol, ac wedi cefnogi busnesau lleol i aros mewn busnes ar adeg anodd iawn, a banc bwyd a gwasanaeth rhannu bwyd.

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:

Mae’r Flwyddyn Newydd yn dod â gobaith newydd, wrth i’r broses o frechu yn erbyn COVID-19 gyflymu. Fodd bynnag, yn ystod wythnosau cyntaf 2021 rydyn ni hefyd wedi gweld y nifer uchaf o achosion ers dechrau’r pandemig. Dyw hi erioed wedi bod yn fwy pwysig inni i gyd aros gartref, felly, a chyfyngu ar gysylltiadau cymdeithasol lle bynnag y bo’n bosibl.  

Drwy gydol y pandemig, mae cymunedau, gwirfoddolwyr ac elusennau wedi bod yn cefnogi pobl i ynysu’n ddiogel a chadw mewn cysylltiad ag eraill. O ddanfon bwyd a meddyginiaeth i weithgarwch cymdeithasol rhithiol, mae yna gymaint o enghreifftiau gwych o gymorth.

Mae’r ymdrechion hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl ac yn cymryd pwysau oddi ar y GIG drwy’r cyfnod anodd hwn, sy’n deyrnged aruthrol i’r ysbryd cymunedol yma yng Nghymru.