Scolton Adventure Play Area

Mae enw da Maenordy Scolton fel un o hoff atyniadau’r teulu yn Sir Benfro wedi cael hwb, diolch i fuddsoddiad o £160,000. 

Yn barod ar gyfer ymwelwyr y Pasg, mae nifer o nodweddion newydd i’w gweld, gan gynnwys ardal chwarae antur, canolfan groeso a siop anrhegion, ac ‘Ystafell De Edie’, sydd wedi’i ailwampio’n ddiweddar.

Daw buddsoddiad o £128,000 gan Lywodraeth Cymru a’r UE, a daw’r £32,000 sy’n weddill gan Cyngor Sir Penfro. 

Cafodd yr atyniadau eu dadorchuddio’n swyddogol ar ddydd Gwener. Dywedodd Mark Thomas, rheolwr Maenordy Scolton, bod y tîm yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i’r safle. 

“Rydym wrth ein boddau gyda’r cyfleusterau newydd ac o’r farn eu bod yn cydweddu’r atyniadau sydd yma yn barod yn Scolton,” meddai. 

Mae’r ardal chwarae antur yn cynnwys weiren wib 30 metr, gwe ddringo sy’n troelli, siglenni mawr a mwy. Mae’r ardal wedi’i chreu ar gyfer plant hŷn, tra gall y rhai iau fwynhau’r ardal chwarae bren sydd ar y safle’n barod. Mae ardal offerynnau cerdd yn yr awyr agored ac ardal antur y goedwig ar gael hefyd.  

Mae’r ganolfan groeso a’r siop anrhegion - ynghyd â pharlwr hufen ia fechan - wedi’u creu wrth adnewyddu adeilad oedd ar y safle’n barod, ger y meysydd parcio.  

“Rydym yn credu y bydd y ganolfan yn cynnig derbyniad gwell i ymwelwyr yn Scolton,” meddai Mark. “ Bydd yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i’n holl ymwelwyr, gan gynnwys prosiect gardd â wal o’i chwmpas, canolfan cadw gwenyn a’r maenordy Fictoraidd sydd ag amserlen o arddangosiadau gwahanol. 

“Mae hefyd amserlenni ar gael ar gyfer gweithgareddau teuluol, amrywiaeth o anrhegion, a gwybodaeth i dwristiaeth ynglŷn ag atyniadau eraill yn y sir.” 

Mae Ystafell De Edie, sy’n ffinio â’r maenordy yn nodwedd hir-ddisgwyliedig newydd ar y safle, ac wedi derbyn ei henw ar ôl Edith Higgon o deulu’r Higgon, a oedd yn gyfrifol am ystâd Scolton yn ystod oes Fictoria. 

Yn ogystal â darparu bwydlen newydd flasus, mae’r ystafell de yn bwriadu bod yn wagle hygyrch a chroesawgar i ymwelwyr gan gynnwys siop lyfrau ail-law. 

Cafodd rhan fwyaf o waith adnewyddu’r ystafell de ei gwblhau gan Norman Industries, diolch i grant o £12,000 gan Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru. 

Dywedodd Mark ei fod yn teimlo bod y datblygiadau newydd nid yn unig yn cryfhau rôl Scolton fel cyfleuster cymunedol, ond hefyd yn darparu profiadau awyr agored i bobl o bob oed, am bris gostyngedig.  

“Bydd yn parhau i ddatblygu’r safle i fod yn atyniad twristiaeth poblogaidd o fewn canolbarth a gogledd sir Benfro,” ychwanegodd. 

Derbyniodd yr ardal chwarae antur a’r ganolfan groeso arian trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Cynllun Datblygu Gwledig 2014-20, sydd wedi’i ariannu trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.