Laptop

Os allech chi weithio ar ddesg mewn hyb gyda phobl eraill yn nes at eich cartref ble hoffech chi fod?

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan newydd gyda mapiau rhyngweithiol fel y gall pobl ar draws Cymru eu helpu i benderfynu ble ddylai hybiau cydweithio hyblyg gael eu lleoli fel bod y defnydd gorau posibl yn cael ei wneud ohonynt.

Mae’r pandemig wedi chwyldroi’r ffordd y mae llawer o fusnesau a phobl ledled y byd yn gweithio ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod uchelgais tymor hir y bydd 30% o weithlu Cymru’n gweithio gartref neu’n gweithio lawer yn nes at adref.

I wireddu’r uchelgais, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio map rhyngweithiol i aelodau’r cyhoedd allu rhoi pin ar leoliad lle bydden nhw’n hoffi gweld hyb ‘gweithio o bell’ yn cael ei greu.  Mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio, trwy fod yn rhyngweithiol, y caiff yr hybiau eu dylunio a’u datblygu gyda golwg ar sicrhau’r defnydd gorau ohonyn nhw.

Er mwyn cael mwy o bobl i weithio’n nes at adref, mae Llywodraeth Cymru’n treialu safleoedd gweithio hyblyg yn ardal Tasglu’r Cymoedd.

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £500,000, gyda chymorth ei Chronfa Trawsnewid Trefi, mewn chwe safle gweithio hyblyg yn y Cymoedd. 

Bydd Llys Llwyn-y-pia’n cael ei ailddatblygu a chaiff safle cyd-weithio ei greu yng Nghymdeithas Tai Rhondda yn Nhon-y-pandy.

Bydd cyfleoedd hefyd i bobl weithio gerllaw mannau hardd a safleoedd treftadaeth lleol. Mae un lleoliad gweithio hyblyg newydd ar fin cael ei ddatblygu yn y Porth Darganfod yn Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin ac un arall ym Mharc Bryn Bach ym Mlaenau Gwent.

Mae Pyrth Darganfod yn ffyrdd pwysig o adrodd hanes y Cymoedd a chael pobl leol ac ymwelwyr i grwydro a mwynhau treftadaeth naturiol a diwylliannol ardaloedd sy’n aml wedi cael eu hesgeuluso.

Caiff hybiau hyblyg eraill eu creu yn y Winding House yn Nhredegar Newydd, a llawr gwaelod prif swyddfa Cyngor Caerffili yn Nhŷ Penallta.

Bydd y dystiolaeth a gesglir o’r map rhyngweithiol a’r prosiectau treialu yn y Cymoedd yn ein helpu i ddatblygu hybiau yn y dyfodol.  Bydd nifer fach o dreialon lleol eraill yn cael eu cyhoeddi cyn hir.

Dweud eich dweud:

Dylanwadu ar ddyfodol y gweithle yng Nghymru

 

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Dyma’ch cyfle i roi gwybod i ni ble yr hoffech weithio a ble y byddech yn gweithio orau. Y nod yw creu dewis o ran lleoliadau gweithleoedd y dyfodol yng Nghymru.

Mae’r pandemig wedi dangos nad oes angen i bawb fod yn y swyddfa drwy’r wythnos ac y byddai’n well gan lawer beidio â bod. Ac i gydnabod nad gweithio gartref yw’r dewis gorau i bawb, rydym am ddatblygu safleoedd gweithio o bell fel dewis arall ymarferol.

Gall y math hwn o weithio hyblyg helpu pobl a’u cyflogwyr, ac yr un pryd cryfhau cymunedau lleol a chynnig manteision o ran yr hinsawdd a llesiant pobl wrth inni ddod i ddibynnu llai ar y daith pob dydd i’r gwaith.

Mae gennym gyfle go iawn nawr i wneud gweithio hyblyg ac o bell yn norm diwylliannol.  Gallai hynny ein helpu i gefnogi ac adfywio’n busnesau lleol a chanol ein trefi, gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i lawer, a lleihau’r amser a dreulir ar y daith hir i’r gwaith a’r difrod amgylchedd y mae hynny’n ei greu.

Perthnasol:

Eich cyfrifoldebau fel cyflogwr: coronafeirws

Gweithio o bell