Creu Biwmares di-blastig – dyna nod prosiect newydd lansiwyd yn y dref yr wythnos hon. Wedi ei ariannu gan Arloesi Môn (Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig), mae nifer o fusnesau lleol wedi dod at ei gilydd er mwyn cael gwared ar blastig a cheisio chware rhan wrth amddiffyn yr amgylchedd yn lleol.
Gyda thua 7.7 biliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio bob dydd a chynnydd mewn ymwybyddiaeth am y niwed all plastig achosi i fywyd gwyllt, roedd y criw o wirfoddolwyr lleol yn awyddus i wneud safiad.
Mae pedwar busnes yn Biwmares eisoes wedi cofrestru i gymryd rhan – Mercado; Jackfruit; Canolfan Hamdden Biwmares; a Caffi Happy Valley. A chydag Ynys Môn y sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn ‘statws cymuned di-blastig’– y gobaith yw y bydd y fenter newydd hon yn atgyfnerthu’r hyn yn ogystal ag anfon neges glir i bobl am yr angen i ail ddefnyddio ac ail lenwi.
Dywedodd Gwen Evans Jones, cadeirydd y grŵp gweithredu lleol:
“Mae pawb yn llawer mwy ymwybodol erbyn hyn o’r niwed y mae plastig yn achosi – ac mae’n fater o gryn bryder. Rydym yn awyddus iawn i wneud gwahaniaeth yma yn nhref Biwmares, ac mae o fewn ein gallu ni i wneud gwahaniaeth a gwneud y byd yn le gwell i genedlaethau’r dyfodol. Gobeithio y bydd ein gwaith yn ein tref ni yn ysbrydoli cymunedau eraill ar draws yr ynys i gymryd yr her a cymuno â ni.”
Ychwanegodd Sioned Morgan Thomas o Arloesi Môn:
“Pan ddaeth y prosiect hwn i’n sylw roeddwn ni yn falch iawn o allu bod yn rhan ohono – ac rydym yn falch iawn o fod yn gweithio efo nhw yn Biwmares i ddatblygu’r cynllun. Fel sefydliad rydym yn ceisio mynd i’r afael ar yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau ar yr ynys – ac mae’r cynllun di-blastig hwn yn gwneud yn union hynny. Mae’n wych i weld yr hyn sy’n cael ei wneud i leihau defnydd ac i godi ymwybyddiaeth.”
Yn dilyn y lansiad bydd y busnesau yn cael eu hasesu ac yn cael cyngor ar sut i leihau defnydd o blastig. Bydd sesiwn hyfforddiant yn cael ei chynnal hefyd a bydd croeso i’r cyhoedd fynychu – yno bydd argymhellion ar sut i leihau defnydd o blastig a gwybodaeth am y dewisiadau eraill sydd ar gael. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth bydd y sesiwn yn ceisio annog pobl i newid eu hymddygiad ac i gymryd mwy o ddiddordeb.
I gymryd rhan yn y cynllun mae unigolion a busnesau yn cael eu hannog i gysylltu gyda grŵp Biwmares Di-blastig drwy eu tudalen Facebook neu i gysylltu gydag Arloesi Môn yn Menter Môn.