Village of Gelligaer in 1318

Mae Cwm a Mynydd, sef Rhaglen Datblygu Gwledig Caerffili a Blaenau Gwent, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Hanes Gelligaer, wedi bod yn gweithio ar brosiect i osod bwrdd gwybodaeth newydd ym mhentref Gelligaer a fydd yn canolbwyntio ar sut edrychodd y pentref ym 1318 adeg yr arwr anghofiedig - Llywelyn Bren.

Ym 1316, yn ystod newyn ofnadwy a effeithiodd ar Ewrop gyfan, roedd pobl yr ardal hon yn marw o newyn ac yn methu â thalu'r rhenti a hawliwyd gan y Normaniaid. Penderfynodd Llywelyn wrthryfela a daeth cannoedd o bobl i ymuno ag ef.

Methodd y gwrthryfel, ond pan amgylchynwyd y Cymry gan eu gelynion, dewisodd Llywelyn ildio er mwyn achub bywydau ei ddilynwyr. Enillodd y weithred hon barch ac edmygedd ei elynion. Erfyniodd sawl un o arweinwyr y Normaniaid ar y brenin i arbed bywyd Llywelyn.

Ond roedd i gyd yn ofer.  Ym 1318, dienyddiwyd Llywelyn o flaen Castell Caerdydd. Dioddefodd farwolaeth ofnadwy bradwr. Cafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.

Mae Dr Elin Jones, hanesydd blaenllaw lleol, wedi chwarae rhan hanfodol yn y prosiect hwn. Mae Dr Jones wedi bod yn frwdfrydig am greu cofeb i'r tywysog dewr ac arwrol hwn a galwodd ar dîm Cwm a Mynydd i helpu.

Mae darlun o sut y byddai Gelligaer wedi edrych ym 1318 wedi'i greu gan Chris Jones-Jenkins a bydd yn ymddangos ar y bwrdd.  Bydd copi gwreiddiol y llun hwn yn hongian yng Nghanolfan Iechyd Gelligaer i bawb ei weld. 

Dywedodd y Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau Cymdogaeth, "Mae'n hyfryd gweld cydnabyddiaeth o arwr lleol yn cael ei chreu gan gymdeithas hanes lleol sy'n angerddol i beidio â cholli ei stori a chael y gofeb hon wedi'i gosod yn ei dir ei hun."

Bydd y bwrdd newydd yn cael ei ddadorchuddio ym mhentref Gelligaer ddydd Gwener 24 Ionawr a bydd yn edrych dros Dwyn y Castell, gweddillion castell mwnt a beili a oedd yn gartref i'r tywysogion lleol.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.