Menter Mon

Dywedodd Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, heddiw y bydd cynhyrchu ynni carbon isel yn sector allweddol i economi gogledd Cymru gan fod llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill.

Roedd y Gweinidog yn ymweld ag Ynys Môn i glywed mwy am gynlluniau ar gyfer cynllun ynni'r llanw Morlais a'r Ganolfan Hydrogen sydd wrthi’n cael ei chynllunio ar gyfer Caergybi. Mae'r ddau gynllun yn cael eu harwain gan Fenter Môn, a bydd Morlais yn un o fuddsoddiadau arfaethedig bargen twf gogledd Cymru.

Mae Ynni Carbon Isel yn un o'r pum rhaglen sydd wedi'u cynnwchs yng nghais twf gogledd Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan fuddsoddiad gwerth £240 miliwn gan Lywodraeth cymru a Llywodraeth y DU.  Mae'r Fargen yn cynnig cyfle i fuddsoddi £1.1 biliwn ar draws rhanbarth gogledd Cymru.

Cyfarfu'r Gweinidog â chynrychiolwyr bwrdd rhaglen bargen twf gogledd Cymru, Cyngor Ynys Môn a Menter Môn i glywed am y cynlluniau a'r manteision posibl y gall cynhyrchu ynni carbon isel eu cynnig i gymunedau yng Ngogledd- orllewin Cymru.

Mae'r cynlluniau ar gyfer canolfan hydrogen yn cynnwys cynhyrchu hydrogen gwyrdd a rhwydwaith ad-dalu a dosbarthu.  Mae astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer y ganolfan yn mynd rhagddi ar hyn o bryd.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru:

Mae wedi bod yn ddiddorol iawn clywed am y cynigion ar Ynys Môn ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel gan gynnwys ynni’r llanw a'r ganolfan hydrogen. Mae potensial aruthrol yma i fod ar flaen y gad yn y diwydiant hwn, gyda chefnogaeth bargen twf gogledd Cymru.

Mae'n dda gweld y gwaith sy’n digwydd mewn partneriaeth yn y rhanbarth ar y datblygiadau hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi Huws, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Aelod Arweiniol y Rhaglen Ynni Carbon Isel:

Roeddem yn falch iawn o groesawu'r Gweinidog Lesley Griffiths i'r rhanbarth i ddysgu mwy am y cynnydd gwych gyda phrosiect Morlais.

Roedd yn gyfle gwych i ddangos y gwaith caled sydd wedi digwydd i symud Morlais i'r cam olaf ond un, sef y cam cyn y gall y gwaith adeiladu ddechrau.

Rydym yn parhau â'n gwaith o ddatblygu economi gynaliadwy a gwydn i fusnesau a thrigolion gogledd Cymru. Edrychwn ymlaen at groesawu'r Gweinidog Lesley Griffiths yn ôl yn y dyfodol.

Ychwanegodd Gerallt Llewellyn Jones, cyfarwyddwr gyda Morlais:

Roedd hi’n bleser cael croesawu’r Gweinidog i Ynys Môn ac roedd hi’n wych cael cyfle i drafod sut y gall Morlais a’r ganolfan hydrogen chwarae rhan bwysig yn y gwaith o fynd i’r afael â rhai o’r materion sy’n gyfrifol am y newid yn yr hinsawdd.

Mae’r ddau brosiect yn anelu at sicrhau manteision i’r ardal leol o ran swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd busnes a byddant hefyd yn helpu i gynnig atebion i broblemau byd-eang.