Lleihau perygl damweiniau ffermio

Ym mis Mai 2017, cafodd bachgen naw mlwydd oed ei anafu’n ddifrifol ar fferm yn Nyfnaint. Tra’n teithio fel teithiwr syrthiodd oddi ar gerbyd ATV a oedd yn cael ei yrru gan fachgen 13 oed. Cafodd coes y bachgen ieuengaf ei wasgu’n wael a'i dorri, a threuliodd wythnosau yn yr ysbyty. Roedd angen impio croen o'i gefn a chafodd wythnosau o ffisiotherapi dwys. Mae'n siŵr bod hyn wedi achosi gofid mawr i'r  bachgen hŷn hefyd. Ym mis Ionawr eleni, cafodd y bartneriaeth fferm a oedd yn gyfrifol am les a diogelwch y bechgyn ddirwy o £28,333 a gorchymyn i dalu costau.

Gellid bod wedi osgoi'r digwyddiad ofnadwy hwn, a llawer o rai eraill ledled Cymru a'r DU, pe bai'r fferm wedi cymryd rhagofalon diogelwch syml ac wedi parchu'r gyfraith. Gall ffermydd a buarthau ffermydd fod yn fannau peryglus i bob grŵp oedran, ond mae cryn risg i blant yn benodol os caniateir iddynt chwarae ar y fferm, ymweld hi neu helpu arni heb oruchwyliaeth.
  
Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sy'n fenter ar y cyd rhwng yr holl sefydliadau sy'n cynrychioli rhanddeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru, wedi cyhoeddi rhybudd i bob teulu yng nghefn gwlad, gan eu hatgoffa na ddylai plant fod yn y gweithle, ei bod yn anghyfreithlon i blant dan 13 oed fynd ar gerbydau neu beiriannau amaethyddol, ac na ddylai plant ddefnyddio offer gwaith fel ATVs.
  
Mae'r Bartneriaeth yn benderfynol o annog ffermwyr ym mhobman i leihau'r risg o ddamweiniau ar y fferm drwy ei hymgyrch ddi-flewyn-ar-dafod i godi ymwybyddiaeth am ddiogelwch ar ffermydd. Bydd ei haelodau'n mynd ati yn ystod y mis i atgoffa ffermwyr a choedwigwyr ym mhobman na fydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn meddwl ddwywaith cyn cymryd camau gorfodi priodol yn erbyn y rheini na fyddant yn cyrraedd y safonau gofynnol, yn enwedig pa fo plant dan sylw.
  
Cael eu bwrw neu eu taro i lawr gan beiriannau fferm neu gan gerbydau sy'n ymweld â'r fferm yw'r prif reswm pam mae plant yn cael eu lladd ar ffermydd. Y damweiniau y clywir amdanynt yn amlaf yn y DU yw syrthio oddi ar dractorau ac ATVs neu feiciau cwad. Ond mae perygl yn llechu ym mhobman! Y naill flwyddyn ar ôl y llall, rydym yn clywed am drychinebau lle mae plant yn boddi neu'n cael eu mygu ar ffermydd; yn cael eu gwasgu; eu taro gan bethau'n syrthio neu gan dasau'n dymchwel neu'n cael eu hanafu gan anifeiliaid.

Ar fferm waith, gall bron popeth fod yn risg i blant os nad ydynt yn cael eu goruchwylio. Maent yn naturiol chwilfrydig ac yn ddi-ofn yn aml. Gall pobl achosi risg iddynt hefyd − yr aelod diarwybod o'r teulu, yr ymwelydd neu rywun sy'n danfon nwyddau yn gyrru i mewn i'r buarth, heb wybod bod plant yn rhedeg o gwmpas.
 
Brian Rees yw cadeirydd y Bartneriaeth. Yn ogystal â bod yn hyfforddwr diogelwch ar y fferm sydd â chryn brofiad yn y maes ac yn un o fentoriaid cymeradwy Cyswllt Ffermio, mae Mr Rees yn ffermwr hefyd. Cafodd ei dri phlentyn, sydd i gyd yn oedolion erbyn hyn, eu magu ar fferm waith ei deulu yn y Canolbarth.   

“Yn aml, mae ffermwyr eu hunain yn cyfeiliorni, gan gredu bod plant fferm yn deall y peryglon ar ffermydd, ond mae'r rhan fwyaf o'r plant sy'n cael eu lladd neu eu hanafu ar ffermydd yn aelodau o'r teulu, ac mae hynny'n adrodd ei stori drist ei hun.” 

Ei gyngor ef yw ei bod yn hanfodol i ffermwyr fod yn ymwybodol o'r arferion gorau diweddara ac am y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd arnynt, ac i wneud yn siŵr bod plant yn cael eu goruchwylio bob amser. 

“Er mwyn cyflawni'r dyletswyddau sydd arnoch a chadw plant yn ddiogel, y peth pwysicaf yw peidio â chaniatáu i blant fod yn y mannau gwaith ar y fferm (a dylai plant ifanc gael mwynhau bod allan yn yr awyr agored mewn ardal sydd wedi'i ffensio'n ddiogel)."

“Drwy gymryd ychydig o gamau diogelwch syml a thrwy sicrhau bod plant yn cael eu goruchwylio'n briodol bob amser, gall pob teulu sy'n ffermio leihau'r risg o ddamweiniau a allai ladd plant neu newid eu bywydau am byth. A dweud y gwir, mae'n rhaid iddyn nhw wneud hynny.” 

Os yw plant o dan 16 oed yn mynd i'r mannau gwaith, er mwyn cael eu haddysgu, er enghraifft, neu er mwyn cael gwybodaeth neu brofiad, dylid cynllunio hynny a dylent gael eu goruchwylio gan oedolyn nad yw wrthi'n gweithio. 

Mae plant o dan 13 oed yn cael eu gwahardd yn benodol rhag gyrru neu fynd ar unrhyw beiriant amaethyddol. 

“Os oes cyfrifiadur neu ffôn smart gyda chi, gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddara' yn hawdd iawn drwy edrych ar y canllawiau arfer da ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a hefyd ar wefan y Sefydliad Diogelwch Fferm, sy'n cydweithio'n agos â'r Awdurdod Gweithredol a'r diwydiant ledled y DU."

“Mae'r Bartneriaeth yn benderfynol o godi ymwybyddiaeth er mwyn lleihau nifer y damweiniau ar ffermydd, ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i deuluoedd fferm weithio gyda ni, ac i fanteisio ar yr arweiniad, yr hyfforddiant a'r mentora sydd ar gael. Mae llawer ohono'n cael ei ariannu'n llawn neu cynigir cymhorthdal o hyd at 80% i ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio,” meddai Mr Rees.

Gall ffermwyr cymwys wneud cais am hyd at 22.5 awr o gyngor cyfrinachol ar y fferm. Mae'n cael ei ariannu'n llawn, ac yn cael ei gynnig gan un o'r mentoriaid sydd wedi'u cymeradwyo i gynnig cyngor ar iechyd a diogelwch ar ffermydd, ac sy'n rhan o raglen fonitro Cyswllt Ffermio.


“Mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn gwybod eu bod nhw'n torri corneli ambell waith ac nad ydyn nhw bob amser yn dilyn y canllawiau cywir ar ddiogelwch, ond o gael arbenigwr i ymweld yn anffurfiol â'ch fferm a dweud wrthych, yn gwbl gyfrinachol, pa gamau y gallwch chi eu cymryd i leihau risgiau neu eu dileu yn llwyr, gallai hynny leihau'r risg o ddamweiniau i lawer o deuluoedd.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am gadw plant yn ddiogel ar ffermydd, ewch i: 

http://www.hse.gov.uk/pubns/indg472.pdf
http://www.yellowwellies.org