foxglove fair

Ers 2016, mae Cynnal y Cardi wedi cefnogi 43 o syniadau a arweinir gan y gymuned wledig, am gyfanswm o £1.2m. Mae'r rhain wedi'u hariannu trwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae GGLl Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi helpu i wneud syniadau yn reality trwy gefnogi datblygu prosiectau, gwerthuso, astudiaethau dichonoldeb, hwyluso, hyfforddi, mentora, ymgynghoriadau a phrosiectau peilot.

Ym mis Mai eleni, ar ôl i'r Astudiaeth Adfywio’r Ucheldiroedd amlygu'r angen am fwy o ddigwyddiadau yn rhanbarth yr Ucheldiroedd i ddenu ymwelwyr a chynyddu gwariant yn yr ardal, gweithiodd Pentir Pumlumon gydag Ymddiriedolaeth yr Hafod i i gynnal digwyddiad cerddoriaeth a ffair gwanwyn yn yr Ardd Furiog o Ystâd yr Hafod. Tra roedd dros 200 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad cerddoriaeth a oedd yn cynnwys yr Hornets a The Hicksters, roedd y ffair wanwyn (a elwir hefyd yn Ffair Bysedd y Cŵn) hefyd yn llwyddiant ysgubol gyda channoedd o bobl yn bresennol. Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad eleni, mae'n debygol y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol.

Ym mis Mehefin cymeradwywyd prosiect Coleg Ceredigion ‘Academi’r Dyfodol’. Bydd y prosiect yn treialu gweithdai mewn nifer o feysydd sector blaenoriaeth; Sector Bwyd, Sector Celfyddydau Perfformio, Sector Celf a Sector Ffilm neu Graffeg. Y bwriad yw cyflwyno dwy set o weithdai dros gyfnod o 8 wythnos ar draws nifer o sectorau, gyda'r nod o ddatblygu arloesedd a chreadigrwydd, hyrwyddo entrepreneuriaeth, angerdd a phwrpas, a meithrin hyder a hydwythdedd. Anelir y set gyntaf o weithdai at garfan o ddysgwyr ysgol 14-16 oed heb unrhyw lwybr gyrfa benodol mewn golwg. Anelir yr ail set o weithdai at garfan o ddysgwyr 16+ oed sydd wedi datgyweddu a dysgu a chyflogaeth.
Gyda ffocws ar asedau naturiol Ceredigion, mae prosiect cyfredol Gweithgor Dyffryn Aeron, Pweru'r Dyffryn, yng ngham nesaf eu prosiect, gyda chyhoeddi adroddiad cynhwysfawr o'r ymgynghoriad lleol a'i darganfyddiadau ar gyfer datblygiadau posibl yn y dyfodol agos. Mae darganfyddiadau cynnar yr ymgynghoriad yn cynnwys cefnogaeth i ymchwil pellach i botensial dyfrffyrdd a phŵer solar ar gyfer cynhyrchu ynni lleol, cynaliadwy.

Hoffai Cynnal y Cardi glywed gan unigolion, grwpiau, sefydliadau neu fusnesau sydd â syniadau arloesol gan y gymuned. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer mynegi diddordeb yw dydd Llun, 9 Medi 2019.