Genetic testing season

Roedd ŵyn o hyrddod â chofnodion perfformiad yn drymach nag ŵyn o hyrddod heb gofnodion, yn ôl y canlyniadau cychwynnol Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru (HCC).

Daw’r canlyniadau hyn o dymor ŵyna saith Diadell Arweiniol y Cynllun Hyrddod Mynydd yn 2019, ac maent yn dangos fod ŵyn 8 wythnos oed o hyrddod â chofnodion perfformiad 1.6kg yn drymach ar gyfartaledd nag ŵyn o’r un oed o hyrddod eraill. 

Yn ogystal, roedd 13% yn llai o ŵyn o dan 20kg yn 8 wythnos oed pan ddefnyddiwyd hyrddod â chofnodion perfformiad, gyda 76% o'r ŵyn hynny’n pwyso dros 20kg.  Ar ben hynny, roedd 22% yn fwy o ŵyn o hyrddod â chofnodion yn pwyso dros 30kg adeg eu diddyfnu.

O'u cymharu ag ŵyn o hyrddod heb gofnodion, roedd y rhai o hyrddod â chofnodion perfformiad, ar gyfartaledd, yn 2.4kg yn drymach. Yn ariannol, mae hyn yn golygu y gallai ŵyn o hyrddod â chofnodion perfformiad fod yn werth tua £4.00 yr un yn fwy.*

Mae’r Diadelloedd Arweiniol yn rhwydwaith o saith ffermwr mynydd o wahanol rannau o Gymru a ymunodd â'r Cynllun Hyrddod Mynydd yn 2018 ac sy'n gosod patrwm i'r diadelloedd eraill sydd wedi ymuno â'r Cynllun yn ddiweddarach. Mae’r canlyniadau uchod yn seiliedig ar dros 2,500 o ŵyn.

Dywedodd Gwawr Parry, Swyddog Gweithredol Geneteg Diadelloedd HCC, sy'n cydlynu'r Cynllun: 'Mae'r canlyniadau cychwynnol hyn yn gyffrous iawn ac yn awgrymu y bydd y Cynllun Hyrddod Mynydd a'r defnydd o gofnodion perfformiad genetig yn caniatáu i ffermwyr mynydd gynhyrchu ŵyn ar gyfer ystod ehangach o farchnadoedd trwy ddefnyddio geneteg.

‘Y cysyniad y tu ôl i’r Cynllun Hyrddod Mynydd yw helpu ffermwyr mynydd i fod yn fwy hydwyth a chynaliadwy yn eu busnesau; gan ganiatáu iddyn nhw dargedu gwahanol agweddau ar berfformiad eu diadelloedd i gynhyrchu ŵyn yn effeithlon ac o fewn ystod ehangach o ofynion y farchnad.'

‘Ar dir mynydd, mae’n anodd targedu twf yr ŵyn a phryd y byddan nhw’n barod i’w lladd.  Fodd bynnag, mae’r canlyniadau hyn yn dangos y gall gwahaniaethau genetig bach gael effaith fawr ar elw heb newidiadau sylfaenol i’r systemau ffermio.’

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd  yn rhan o Raglen Datblygu Cig Coch HCC sy’n para am bum mlynedd.  Mae’n cael ei ariannu fel rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Performance recorded ram

Mae’r Diadelloedd Arweiniol ar fin cwblhau eu hail dymor ŵyna fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd ac mae nifer o aelodau newydd yn tynnu at derfyn eu tymor ŵyna cyntaf fel rhan o’r Cynllun. 

Daeth ail gyfle i fynegi diddordeb i fod yn rhan o’r Cynllun i ben ym mis Mawrth eleni, a bydd trydydd grŵp o ddiadelloedd newydd yn ymuno yn ystod hydref 2020.