Capel Bethlehem

Mae Rhaglen Dreftadaeth Treflun Blaenafon (THP) ar waith, ac mae’r adeilad cyntaf i fanteisio ar y cyllid wedi ei gwblhau.

Mae Capel Bethlehem, a leolir ym Mlaenafon, wedi ei adfer ac mae ganddo bellach do llechi, nwyddau dŵr glaw haearn bwrw, ffenestri pren, drysau pren a rendro calch newydd. I ddathlu ail-agor y capel, cynhaliwyd gwasanaeth ailgysegru llwyddiannus ar ddydd Sul 15fed Medi.

Mae’r capel bellach yn gwbl hygyrch ac mae ganddo sgrîn sy’n dod i lawr a thaflunydd sydd, yn ychwanegol i ddefnydd crefyddol yr adeilad, yn gallu cynnal amrywiol weithgareddau amgen.

Denodd y rhaglen adnewyddu hon gyllid arwyddocaol gan THP Blaenafon, a’r Rhaglen Datblygu Gwledig i sicrhau bod yr adeilad yn cael ei drin yn sensitif ac yn cael ei ddefnyddio’n gynaliadwy yn yr hirdymor gan ddefnyddio sgiliau adeiladu traddodiadol a deunyddiau priodol.

Meddai’r Parch. Jill Stephens:

“Rydym wrth ein boddau bod ein hadeilad nawr yn barod i fod yn eglwys ac yn fan cymunedol. Mae’n adeilad lle mae ‘croeso i bawb’. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma. Diolch yn fawr i bawb”.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, aelod gweithredol ar gyfer economi, sgiliau ac adfywio: “Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd yn ariannol i’r prosiect hwn. Heb gefnogaeth a gweledigaeth cymaint o randdeiliaid ni fyddai’r gweddnewidiad gwych hwn wedi bod yn bosibl.

“Mae gweld hen adeiladau neu adeiladau nad oeddynt yn cael eu defnyddio ar eu newydd wedd i elwa’r gymuned yn beth rhagorol.”

Meddai’r Cynghorydd Alan Jones, Hyrwyddwr Treftadaeth y Byd Blaenafon:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld bod yr holl waith caled a’r penderfyniad gan Gapel Bethlehem wedi ei wireddu o’r diwedd. Am ddeng mlynedd hir, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Chyngor Tref Blaenafon wedi ceisio sicrhau cyllid i adnewyddu’r capel.

“Mae ei weld nawr yn destament gwirioneddol i’r gwaith hynod y mae cymuned Blaenafon wedi ei wneud. Gall capel Cymraeg olaf Blaenafon nawr ail-agor ei ddrysau i gynnig adnoddau cymunedol gwerthfawr.”

Mae THP Blaenafon yn cael ei chyflenwi gyda chyfraniadau ariannol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon a Cadw. Mae’r prosiect hwn hefyd wedi derbyn cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Datblygu Gwledig 2014-2020, a gaiff ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r THP yn cefnogi adfywiad treftadaeth ffisegol a chymunedol ym Mlaenafon gyda grantiau adeiladu wedi eu targedu ar adeiladau penodol a mentrau cymunedol. Mae’r THP i gwblhau ei gwaith ym mis Rhagfyr 2021.

Dysgwch fwy am Raglen Dreftadeth Treflun Blaenafon.