Mae llawer iawn o fentrau a gyllidir yn gyhoeddus ar gyfer datblygu busnesau ond mae rhai pryderon wedi cael eu mynegi ynghylch y ffaith nad ydym o bosibl mor effeithiol ag y gallen ni fod a’n bod o bosibl yn dyblygu ymdrechion neu ddim yn manteisio ar yr holl gymorth sydd ar gael. Wrth i’r Fframwaith Entrepreneuriaeth Menywod a’r gwaith o ddatblygu fframweithiau rhanbarthol ddatblygu– mae’n gyfle i ystyried beth sydd ar gael ac i drafod rhai o’r pynciau/mythau sy’n codi mewn sgyrsiau gan gynnwys:
- Dulliau plwyfol
- Diffyg gwybodaeth gan rwydweithiau
- Diffyg gwaith cysylltu
- Diffyg diddordeb yn yr ardaloedd llai poblog fel Canolbarth Cymru
- Diffyg rhwydweithio cydweithredol er mwyn ymdrin â’r gallu i gynhyrchu neu brosesu llawer, sicrhau cysondeb a sicrhau ansawdd
- Beth yn union yw busnes Cymreig
Gweler y linc isod a'r dogfennau cysylltiedig i gael rhagor o wybodaeth:
https://businesswales.gov.wales/supporting-women-wales