Dyffryn Gwyrdd EV

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r prosiect Ceir Trydan Cymunedol sy'n cael ei redeg gan Arloesi Gwynedd Wledig wedi gweld newidiadau mawr. Gyda cheir trydan yn cynyddu mewn poblogrwydd a ffocws cryfach ar ein heffaith amgylcheddol yn 2021, beth yw etifeddiaeth y ceir trydan Carwyn a Carwen wrth i’r prosiect ddod i ben?

Ers i'r prosiect ddechrau yn 2019 bu cynnydd mawr yn nifer y cerbydau trydan sydd wedi'u cofrestru yn y DU, twf o 66%. Ddiwedd mis Hydref 2021 roedd mwy na 675,000 o gerbydau plug-in gyda bron i 345,000 BEV a 325,000 PHEV wedi'u cofrestru. Yn 2020 gwelwyd y cynnydd blynyddol mwyaf yn nifer y cofrestriadau, gyda mwy na 175,000 o gerbydau trydan wedi'u cofrestru. Er gwaethaf effaith Covid-19, roedd 2020 yn flwyddyn dwf enfawr i gerbydau plug-in.

Dechreuodd Carwyn a Carwen eu teithiau ym Methesda ac Abergynolwyn, gyda'r prosiect yn canolbwyntio'n bennaf ar agwedd gymunedol y car, yn hytrach na'u bod yn drydanol. Ac er bod y ceir yn cael eu defnyddio gan bobl leol ar gyfer teithiau siopa mewn grŵp ac apwyntiadau ysbyty, roedd y ffaith eu bod yn geir trydan yn amlwg yr un mor bwysig ag agwedd gymunedol y prosiect! Yn sicr, gadawodd Carwen ei marc ym Methesda gan fod gan Bartneriaeth Ogwen a Dyffryn Gwyrdd dri cherbyd trydan bellach sy'n cael eu defnyddio yn y gymuned.

Dywedodd Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen "Roedd cael cydweithio efo Arloesi Gwynedd Wledig ar brosiect 'Carwen' y car trydan yn brofiad defnyddiol tu hwnt. Roedd creu partneriaeth o'r math hyn yn cyd-fynd yn ardderchog gyda gweledigaeth Partneriaeth Ogwen o greu cymuned gynaladwy  yn wir ystyr y gair - darparu gwasanaethau gwyrdd ar gyfer pawb yn ein cymuned. Fel canlyniad i'r partneru hyn 'rydym wedi datblygu fflyd o gerbydau gwyrdd yn Nyffryn Ogwen ac mae'n gwaith yn mynd o nerth i nerth".

Ychwanegodd Huw Davies, Rheolwr prosiect y Dyffryn Gwyrdd;"Roedd cael Carwen ar leoliad efo'r Bartneriaeth yn agoriad llygaid inni fel tim o staff a gwirfoddolwyr ac wedyn i'r trigolion ar hyd a lled y dyffryn. Cawsom ddysgu gan arebnigrwyr tim Arloesi Gwynedd Wledig a rhoddodd hynny gyfle inni rannu'r wybodaeth hynny efo pobl oedd yn newydd i yrru ceir trydan. Bellach mae gennym dri cerbyd trydan ym Mharnteriaeth Ogwen ac rydym yn rhannu'n profiadau'n rheolaidd gyda unigolion a grwpiau led-led Cymru, a thu hwnt".

Delivering prescriptions

Yn sicr, cafodd y pandemig coronafirws effaith ar y prosiect, ond roedd ysbryd a gwytnwch cymunedol yn golygu nad oedd Carwyn a Carwen yn llonydd am hir. Defnyddiwyd y ceir i ddosbarthu prydau poeth, cynnyrch lleol a phresgripsiynau i bobl leol yn y gymuned. Yn 2020 symudodd y ceir i Llanaelhaearn a Penygroes a pharhau i ysbrydoli'r cymunedau hyn i weld y potensial ar gyfer cerbydau trydan. Ar hyn o bryd mae Carwyn ym maes parcio Tŷ Doctor yn Llanaelhaearn, ac mae mewn lleoliad perffaith i helpu'r feddygfa yn ystod yr amser heriol hwn. Mae aelod o staff Tŷ Doctor wedi bod yn defnyddio'r car ychydig weithiau'r wythnos i ddosbarthu presgripsiynau i bobl yr ardal.

Dywedodd Elfed Morgan o Tŷ Doctor “Mae cael defnyddio Carwyn y car trydan cymunedol yn adnodd gwych i ni fel meddygfa. Nid yn unig mae’n caniatau i ni drafeilio mewn ffordd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, mae hefyd yn caniatau i ni gynnig y gwasanaeth yma i’n cleifion, sydd wedi eu hynysu yn fwy na’r arfer ar hyn o bryd.”

Tra bydd Carwyn yn aros yn Llanaelhaearn tan fis Ionawr 2022, mae Carwen bellach wedi ffarwelio â Penygroes a Gwynedd. Ond unwaith eto fe wnaeth y ceir argraff, gyda Siop Yr Orsaf ym Mhenygroes yn disgwyl tri cherbyd trydan yn fuan! Maen nhw newydd dderbyn car trydan newydd o'r enw Arianrhod, gyda fan drydan a chludwr pobl yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd!

Eglura Rhys Gwilym o Arloesi Gwynedd Wledig “Mae wedi bod yn wych gweld yr effaith y mae Carwyn a Carwen wedi’i chael dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dechreuon ni allan gyda dau gar, nawr bydd dros chwe cherbyd trydan ar gael mewn cymunedau ledled Gwynedd! Nid yn unig y maent yn adnodd gwych i'w cymunedau, ond byddant hefyd yn helpu i gyfrannu at leihau ein hôl troed carbon a normaleiddio'r defnydd o gerbydau trydan mewn ardaloedd gwledig fel Gwynedd."

Mae Arloesi Gwynedd Wledig yn cael ei weinyddu gan Menter Môn, ac mae prosiect Carwyn a Carwen yn cyfrannu at eu nod ehangach o fod yn fenter gymdeithasol sy’n cyfrannu at Gymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd eang. Gyda’r budd cymunedol mwyaf yn flaenoriaeth i holl waith Menter Môn mae’r prosiect ceir trydan cymunedol wedi sicrhau hyn gan warchod yr amgylchedd ar yr un pryd.

Mae Carwyn yn aros yn Llanaelhaearn tan fis Ionawr 2022, felly os ydych chi'n ystyried car trydan ond yr hoffech chi brofi un yn gyntaf, beth am logi Carwyn am y diwrnod! Archebwch trwy'r wefan www.gwynedd.book.co-wheels.org.uk a defnyddiwch y cod AGW20 i gael £20 oddi ar y ffi gofrestru! 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.

Carwen Delivering Food