Bydd ciosg ffôn eiconig Treuddyn yn Stryd y Frenhines yn cael ei adfywio drwy fenter a arweinir gan y Cyngor Cymuned.
Roedd BT Payphones yn bwriadu cael gwared ar y ciosg, ond mae’r Cyngor wedi ymuno â’r asiantaeth datblygu gwledig, Cadwyn Clwyd, i roi pwrpas newydd i’r ciosg ffôn segur.
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Bentref Treuddyn ddydd Mercher 30 Mai am 6.30pm.