Bydd ymdrin ag anghydraddoldeb a hyrwyddo cymdeithas decach ar ben yr agenda mewn cynhadledd arbennig i drafod sefydlu Comisiwn Tegwch Ynys Môn yn ddiweddarach yn y mis. 

Dyma fyddai’r Comisiwn cyntaf o’i fath i gael ei sefydlu yng ngogledd Cymru, a bydd yn dilyn patrwm grwpiau tebyg mewn ardaloedd eraill o Gymru, yr Alban a Lloegr. Nod y grŵp wedi ei sefydlu fyddai edrych ar nifer o feysydd allweddol gan gynnwys mapio anghydraddoldebau; ddatblygu isadeiledd cymunedol, cryfhau cydlyniant cymdeithasol a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar sail rhywedd.

Bydd Rhun Ap Iorwerth AC ac Albert Owen AS, yn ogystal â siaradwyr o’r Carnegie Trust, a Chomisiynau Tegwch Casnewydd ac Ynysoedd Shetland yn siarad yn y gynhadledd sy’n cael ei threfnu gan Menter Môn, yn Llangefni ar y 21ain o Hydref. Cyllidwyd y gynhadledd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig gyda chyfraniad gan Gronfa Elusennol Ynys Môn.

Mewn ardaloedd ble mae Comisiwn eisoes yn bodoli mae’n cymryd tystiolaeth gan arbenigwyr annibynnol, yr awdurdod lleol yn ogystal â thrigolion ac yna yn cyhoeddi adroddiad sy’n gwneud argymhellion ar sut i ymdrin â’r prif heriau sy’n wynebu ardal. Y nod yn y pen draw yw bod canfyddiadau yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar bolisi lleol a chenedlaethol ac yn cynhyrchu syniadau y gall cymunedau eu rhoi ar waith.

Dau sydd wedi bod yn awyddus i weld Comisiwn yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn yw Gerald Hewitson, cyn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Uwchradd Caergybi a’r Cynghorydd Dylan Rees, Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn tan fis Mai eleni.

Dywedodd y Cyng. Dylan Rees:

“Rwy’n edrych ymlaen at y gynhadledd ac i drafod sut y gallwn sicrhau gwell cydlyniant yn ein cymunedau a chreu cymdeithas y gall pawb fod yn rhan ohoni. Os ydym am greu cymunedau iach, cynaliadwy yna mae rhaid i ni daclo anghydraddoldebau yma ar yr ynys. Gobeithio y bydd y gynhadledd yn gyfle i ni ddechrau edrych ar sut i wneud yn union hynny.”

Ychwanegodd Gerald Hewitson :

“Yn aml iawn mae’n anodd ymdrin â’r materion sy’n arwain at dlodi ac eithrio cymdeithasol  - bydd Comisiwn Tegwch lleol yn ein galluogi ni i ddeall ac edrych ar ffyrdd i’n cymunedau gydweithio er budd pawb. Mae’r gynhadledd hon yn gam cyntaf pwysig wrth i ni godi ymwybyddiaeth a datblygu ein dealltwriaeth fel y gall Ynys Môn symud ymlaen i greu gwell safon byw i bawb.”

I fynychu’r digwyddiad cofrestrwch drwy  Eventbrite.co.uk, am ragor o wybodaeth cysylltwch â  jackie@mentermon.com