Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain wrth wneud y gorau o barciau, traethau a mannau prydferth Cymru dros yr haf.

Ledled Cymru, mae mwy o sbwriel i’w weld wrth i gyfyngiadau Covid lacio ac wrth i’r tywydd wella. Mae ymddygiad lleiafrif bach wedi cael effaith negyddol ar fwynhad pawb o fyd natur. 

Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi ymuno a phob awdurdod lleol ledled Cymru er mwyn annog pobl i wneud y peth iawn wrth wneud y gorau o’r gwyliau haf. Er mwyn atal biniau rhag llenwi a gorlifo, rydyn ni’n galw ar bawb i fynd â’u sbwriel adref a chael gwared arno yno.

Mae'r ymgyrch ‘Creu straeon nid sbwriel’ yn cael ei rhedeg fel rhan o Caru Cymru mudiad cynhwysol sy’n cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol er mwyn ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Ewch i Hyb Caru Cymru i gael gwybod sut y gall eich busnes gymryd rhan.