Gwawr Parry

Mae Cymru yn enwog am ei bryniau tonnog a'i mynyddoedd garw ac maent yn rhan annatod o'i thirwedd eiconig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Ond yn ogystal â hynny, mae'r bryniau a'r mynyddoedd hyn yn gartref i ddefaid mynydd Cymru sy'n rhan hanfodol o ddiwydiant defaid hollbwysig Cymru. 

Mae tua 92% o'r ddiadell fagu yng Nghymru yn byw ar yr ucheldir hwn ac mae 72% yn byw mewn ardaloedd dan anfantais fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r defaid sy'n pori yn yr ardaloedd hyn fridiau mynydd Cymreig megis X X a X - sy'n rhai traddodiadol a chryf. 
 

Welsh sheep breeds
Welsh sheep breeds

 

Wedi'u haddasu i'w hamgylchedd ac yn dilyn deiet o wair porthi yn bennaf, mae ŵyn mynydd yn llai na’r ŵyn traddodiadol sy'n cael eu magu ar diroedd is. Yn y gorffennol, bu galw am yr ŵyn ysgafnach hyn mewn marchnadoedd Canoldirol megis Gwlad Groeg a Sbaen. Fodd bynnag, dros y ddegawd ddiwethaf, mae llawer o'r gwledydd hyn wedi dioddef yn economaidd ac mae eu gofynion wedi newid. O ystyried hynny a'r ffaith bod gwell gan fanwerthwyr y DU ŵyn mwy o faint, mae llai o alw amdanynt.

Fodd bynnag, mae'r bridiau mynydd hyn, a'u his-deipiau, wedi parhau i fod yn boblogaidd yn y sector ffermio ac maent yn cynrychioli bron 40% o ddiadelloedd defaid Cymru. Mae hyn yn golygu bod y brid mynydd hwn yn gallu dylanwadu'n sylweddol ar effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ffermydd defaid Cymru, a chyflenwad ac ansawdd cig oen Cymru.

Mae'n hawdd deall pam eu bod mor gyffredin; maent yn brotein o ansawdd da sy'n byw ar dir nad yw'n addas ar gyfer cnydau na rhywogaethau eraill. Maent yn helpu i reoli'r amgylchedd drwy gynnal a chadw cynefinoedd cyfoethog eu rhywogaethau. Maent yn gryf ac yn barod i grwydro, yn famau da nad oes arnynt angen lawer o gymorth adeg wyna ac maent yn gallu magu eu hŵyn heb lawer o adnoddau.

O gofio hynny, mae Hybu Cig Cymru - Meat Promotion Wales (HCC) wedi lansio ei Gynllun Hyrddod Mynydd sy'n brosiect uchelgeisiol i ddatblygu a hyrwyddo Heidiau Mynydd Cymru drwy welliant genetig. Mae'r cynllun yn rhan o Raglen Datblygu Cig Coch, sef menter strategol pum mlynedd drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 – 2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Nod y prosiect fydd sicrhau gwelliant genetig hirdymor yn y ddiadell Gymreig drwy drafod â chynhyrchwyr hyrddod mynydd a defnyddio technolegau sy'n seiliedig ar DNA i gofnodi perfformiad mewn amgylcheddau mynyddig eang. 

Mae saith diadell arweiniol wedi'u recriwtio ar gyfer blwyddyn gyntaf y prosiect. Mae'r diadelloedd hyn yn rhwydwaith craidd a daearegol amrywiol o ffermwyr mynydd sy'n cynhyrchu amrywiaeth o fridiau defaid mynydd brodorol, gan gynnwys teip mynydd Gogledd Cymru a brid Cymru wedi'i wella. Erbyn diwedd y prosiect, mae disgwyl i o leiaf 35 o ddiadelloedd fod wedi ymuno â'r cynllun. 

Bydd y rhai sy'n ymuno â'r cynllun yn cael cynnig cymorth i fonitro perfformiad genetig. Mae'r manylion nodweddiadol y bydd angen eu cofnodi yn cynnwys:  pa ddefaid sy'n mynd i ba hwrdd; canlyniadau sganiau beichiogrwydd; defaid sydd angen cymorth adeg wyna; pwysau pob oen ar enedigaeth ac yn 18 wythnos a sganiau o'r ŵyn yn 16 wythnos. Bydd yr holl ddata hyn yn cael eu cyflwyno i'w gwerthuso'n enetig.

Bydd y ffermwyr sy'n cymryd rhan hefyd yn gosod Dangosyddion Perfformiad Allweddol i fonitro tueddiadau genetig ac i ddeall eu busnes yn well. Bydd hyfforddiant a chymorth yn cael eu cynnig ar sut i wella'r dangosyddion yn ogystal â deall Gwerthoedd Genetig Bras a defnyddio technoleg DNS.

Dywedodd Gwawr Parry o Hybu Cig Cymru, sy'n cydgysylltu'r prosiect: "Drwy'r prosiect hwn, rydym yn annog mwy o ffermwyr i ddefnyddio data genetig er eu lles eu hunain. Mae cofnodi perfformiad yn creu mwy o waith ar lefel fferm, ond mae'r canlyniadau yn mynd o nerth i nerth, yn gynaliadwy ac yn barhaol".

Aeth yn ei blaen i ddweud: "Bydd y prosiect yn caniatáu i ffermwyr mynydd ddeall eu diadelloedd yn well, gan ddefnyddio'r eneteg orau i gynyddu pwysau ŵyn heb ddefnyddio mwy o borthiant na cholli cryfder y brid".

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer arwerthiannau hyrddod â chofnodion perfformiad. Bydd yn gyfle i'r ffermwyr sy'n cymryd rhan bwysleisio llwyddiant genetig eu diadell a chodi proffil hyrddod o'r fath yn y sector. Bydd cymorth a hyfforddiant yn cael eu cynnig i'r sawl fydd yn cymryd rhan yn y prosiect wrth i'r arwerthiant agosáu.  

Beth yw'r nod hirdymor? Sicrhau mwy o ddiadelloedd mynydd â chofnodion perfformiad  yng Nghymru ynghyd ag arwerthiannau annibynnol. Ond, gwaddol y prosiect fydd gwireddu pwysigrwydd gwelliannau genetig yn y sector ffermydd mynydd  a'r diwydiant ehangach, a galluogi ffermydd ar ucheldir a bryniau Cymru i ddod, yn y pen draw, yn fwy cydnerth ac i ffynnu yn y dyfodol.
 

Hill Ram Scheme Leader Flocks
Hill Ram Scheme Leader Flocks