Sheep grazing

Rhaglen i archwilio cynigion o'r ymgynghoriad ar ffermio cynaliadwy a'r tir.

Gan weithio gyda Menter a busnes, rydym wedi lansio rhaglen ar y cyd. Y llynedd, gwnaethom ymrwymiad i weithio gyda ffermwyr a rheolwyr tir eraill. Byddwn yn gweithio gyda chi i archwilio rhai o'r agweddau mwy ymarferol o'r ymgynghoriad y llynedd.

Rydym yn gwerthfawrogi bod llawer o heriau ar hyn o bryd. Ond mae hwn yn gyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth gadarnhaol a blaengar. Mae angen eich syniadau a'ch profiad arnom i helpu i gynllunio polisi ar gyfer y dyfodol wrth i ni barhau i:

  • paratoi ar gyfer ein gwyro oddi wrth yr UE
  • taclo'r argyfwng hinsawdd
  • gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd uchel

Bydd y cam cyd-ddylunio hwn yn canolbwyntio ar y broses arfaethedig o adolygu cynaliadwyedd ffermydd. Bydd hefyd yn cynnwys pedwar prif faes ar gyfer gweithredu fel y cynigir yn yr ymgynghoriad. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cyfleoedd datblygu ffermydd - archwilio syniadau i gefnogi rheoli fferm yn gynaliadwy, a'ch helpu i wneud unrhyw newidiadau. Gallai hyn olygu creu strategaeth datblygu ffermydd. Byddai hyn yn cynnwys ffyrdd i'ch helpu i gyflawni uchelgeisiau tymor byr, canolig a hir
  • hwsmonaeth pridd - ystyried syniadau ar gyfer rheoli maetholion a thail yn well, a gwella strwythur y pridd
  • rheoli cynefinoedd - sut i symud o gynllun rhagnodol i ddull sy'n cael ei arwain gan ffermwyr
  • iechyd a lles anifeiliaid - cynigion ar gyfer gwell cynllunio iechyd yn seiliedig ar weithredu a bioddiogelwch ar ffermydd

Nid gwneud penderfyniadau terfynol yw'r nod o gyd-ddylunio. Mae'n gyfle i ddysgu o'ch profiad a'ch syniadau i helpu i ddatblygu cynigion pellach.

Mae dwy ffordd i gymryd rhan:

  • arolwg ar-lein, a
  • cyfres o drafodaethau un i un. Oherwydd coronafeirws (COVID-19), bydd y trafodaethau un i un yn cael eu cynnal dros y ffôn. Mae gweithdai'r grwpiau a drefnwyd wedi'u gohirio

Cewch ragor o wybodaeth yn  Menter a Busnes, lle byddwch yn gallu cofrestru. Bydd yr arolwg a chofrestru ar gyfer trafodaethau un i un ar gael tan 30 Mehefin.

Rydym yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Ffermio Cynaliadwy a'n Tir. Byddwn yn cyhoeddi ymateb i'r ymgynghoriad cyn bo hir.

Rhan o: Cynllunio a strategaeth ffermio a chefn gwlad