Forestry

Mae strategaeth wyddoniaeth ac arloesi newydd ar gyfer coedwigaeth ym Mhrydain Fawr i gefnogi dyfodol hirdymor y sector wedi ei chyhoeddi heddiw [dydd Mercher 28 Hydref] gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r strategaeth newydd yn cydnabod rôl allweddol y sector wrth fynd i’r afael â’r heriau o wyrdroi y dirywiad mewn bioamrywiaeth, newid hinsawdd, a chefnogi’r adferiad gwyrdd o COVID-19, a chyfraniad gwyddoniaeth ac arloesi yn hyn o beth.

Mae’r gyfres nesaf o raglenni ymchwil yn adlewyrchu hyn ac yn helpu i gefnogi diwydiant sy’n ffynnu a chreu swyddi, tra’n sicrhau y gall coetiroedd a choedwigoedd wneud cymaint o gyfraniad â phosibl i wella ein hamgylchedd naturiol.

Mae coedwigaeth yn y DU yn sector hollbwysig, gyda choedwigaeth a phrosesu coed primaidd yn creu gwerth £2.5 biliwn o Werth Ychwanaegol Gros y flwyddyn, o gyfanswm o 3.2 miliwn hectar o arwynebedd o goetiroedd.

Mae’r strategaeth yn pennu y canlyniadau lefel uchel, y themâu a’r meysydd ar gyfer ymchwil a nodir gan Lywodraethau Cymru, y DU a’r Alban a rhanddeiliaid coedwigaeth gan gynnwys y Comisiwn Coedwigaeth. Mae hefyd yn amlinellu sut y caiff yr ymchwil hwnnw ei fonitro a’i gyfathrebu.

Mae’r saith blaenoriaeth cyffredinol a nodwyd yn cynnwys gwaith ymchwil ar y themâu canlynol:

  • Rheoli coedwigoedd cynaliadwy yng ngoleuni newid amgylcheddol
  • Marchnadoedd ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau coedwigaeth
  • Manteision i gymdeithas o goed, coetiroedd a choedwigoedd
  • Asesu adnoddau a monitro’r sector
  • Sicrhau manteision niferus i’r ecosystem
  • Creu ac ehangu coetiroedd
  • Iechyd a bioamrywiaeth coed

Wrth groesawu cyhoeddi’r strategaeth, dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae coedwigaeth yn y DU yn sector hanfodol, gan greu manteision amgylcheddol ac economaidd enfawr. Wrth inni geisio creu mwy o goetiroedd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gweithio tuag at adferiad gwyrdd o COVID-19, mae dull strategol o fynd i’r afael ag ymchwil i goedwigaeth yn bwysicach nag erioed.

Mae ein coedwigoedd yn wynebu nifer o heriau, o blâu a chlefydau, ac o addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Dyna pam ei fod mor bwysig i sicrhau gwyddoniaeth gadarn ac arloesol i lywio penderfyniadau a pholisïau. Bydd y strategaeth newydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth wneud yn siŵr bod ein coedwigoedd yn gadarn a iach a sicrhau bod gan y sector ddyfodol cynaliadwy.

Meddai Gweinidog Coedwigaeth Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Goldsmith:

Mae tyfu ac amddiffyn coedwigoedd y DU yn rhan annatod o’n hadferiad gwyrdd o’r coronafeirws, a’r ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd, a dyna pam ein bod wedi ymrwymo i gynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu ledled y DU i 30,000 hectar y flwyddyn erbyn 2025.

Trwy ddefnyddio arbenigedd gwych Forest Research a darparwyr ymchwil eraill, bydd y strategaeth newydd hon yn rhoi’r fframwaith sydd ei hangen arnom i sicrhau ein bod yn cynnal coetiroedd cynaliadwy a chadarn am ddegawdau i ddod.

Meddai Fergus Ewing, Ysgrifennydd Economi Wledig Llywodraeth yr Alban:

Mae’r strategaeth hon yn bwysig – bydd y gwaith ymchwil sy’n deillio ohono yn cefnogi ein hymgyrch i hyrwyddo y broses o reoli coedwigoedd cynaliadwy ochr yn ochr ag ehangu ein coetiroedd i helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd presennol.

Mae gwaith ymchwil a gwyddoniaeth gadarn hefyd yn allweddol i helpu’r sector coedwigaeth i ymateb ac adfer o’r pandemig Covid-19, trwy gefnogi twf economaidd a swyddi gwyrdd.

Strategaeth gwyddoniaeth ac arloesi ar gyfer coedwigaeth ym Mhrydain.