Cymerwch ran yn y cynlluniau gwella cymuned ar gyfer Betws

Mae gan Fforwm Betws, sydd newydd gael ei ffurfio, uchelgeisiau mawr ar gyfer gwella ei gymuned yn ystod y pum mlynedd nesaf, ac mae am i gynifer o drigolion lleol â phosibl gymryd rhan.

Diolch i gyllid gwerth £5,000 gan dîm Datblygu Gwledig Reach Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr trwy ei ‘Gronfa Cymunedau Gwledig Ffyniannus’, mae aelodau o'r Fforwm wedi penodi'r ymgynghorydd Gareth Osborne i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn helpu i ddatblygu cynlluniau'r cyngor, sy'n canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth ar gyfer Betws – tai, trafnidiaeth gyhoeddus, chwaraeon ac adloniant, ac adfywio cymunedol.

Ymhlith y cynigion y mae'r Fforwm yn eu hystyried y mae creu hyb chwaraeon, wedi'i leoli yn yr ysgol gynradd newydd ym Metws. Y bwriad yw gwneud defnydd o gae chwaraeon pob tywydd newydd yr ysgol, er mwyn i'r gymuned leol allu ei ddefnyddio y tu allan i oriau'r ysgol. 

I gymryd rhan a rhannu eich barn am y blaenoriaethau yn y dyfodol ar gyfer Betws, anfonwch neges e-bost i gmoconsultants@gmail.com.

Meddai'r Cynghorydd Charles Smith, Gweinidog Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Adfywio ac Addysg: 

"Mae'n wych gweld cymuned sydd mor rhagweithiol yn dod at ei gilydd. Rwy'n sicr y gall y camau y maent wedi'u cymryd annog cymunedau eraill hefyd i greu eu fforymau eu hunain, a dilyn templed Fforwm Betws."

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae yna 21 o wardiau gwledig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n gymwys i gael cyllid datblygu gwledig. Os oes gennych syniadau ar gyfer eich cymuned wledig yr hoffech eu datblygu, ewch i www.bridgendreach.org.uk neu anfon neges e-bost i reach@bridgend.gov.uk.