Mae trigolion pentref ar Ynys Môn yn cael eu hannog i ffafrio dwy olwyn ar gyfer teithiau lleol fel rhan o fenter newydd i leihau ôl-troed carbon.

Trwy brosiect ‘Cartrefi Hapus, Carbon Isel’ mae beics trydanol wedi eu darparu yn Llanfaelog fel peilot ar gyfer cynllun trafnidiaeth gymunedol. Mae’r beics wedi cael eu cyflenwi gan gwmni Cycle Wales o Langefni ac yn galluogi defnyddwyr i seiclo yn bellach ac yn gyflymach nag y byddent ar feic cyffredin.

Mae byw mewn ardal wledig gyda mynediad cyfyngedig at rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus  yn golygu bod teithio heb gar yn gallu bod yn anodd – gyda theuluoedd yn aml angen dau gar. Mae’r beics yn cael eu treialu felly fel datrysiad posib i rai o’r heriau hyn ac eisoes mae nifer o drigolion wedi bod yn eu defnyddio i gyrraedd y gwaith yn Rhosneigr.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Parry, Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanfaelog, sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect:

“Mae hwn wedi bod yn gynllun gwych ac wedi rhoi cyfle i bobl gael tro ar feic trydanol i weld os ydyn nhw yn eu hoffi cyn meddwl am brynu eu hunain. Mae nifer o bobl sydd heb fod ar gefn beic ers blynyddoedd wedi darganfod eu bod yn gallu reidio’r beics yma yn hawdd – gan roi mwy o ryddid iddynt yn ogystal â chael budd i’w hiechyd. Gan fod y cynllun wedi bod mor boblogaidd mae wedi cael ei ymestyn am chwe mis – rydym yn hynod ddiolchgar am hyn ac i’r prosiect am weithio efo ni yn Llanfaelog.”

Mae Cartrefi Hapus Carbon Isel, yn brosiect LEADER sy’n cael ei redeg dan faner Arloesi Môn, Menter Môn gyda’r nod o adnabod a threialu ymatebion arloesol i’r heriau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu. Mae wedi derbyn nawdd drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaeth Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, ychwanegodd:

“Mae hwn yn brosiect gwych – mae’n annog pobl i feddwl am eu defnydd o garbon yn ogystal â chydweithio fel cymuned i hyrwyddo dulliau mwy cynaliadwy o deithio. Mae hyn yn cyd-fynd â’n gweledigaeth ni ym Menter Môn – ac rydan ni yn falch iawn o fod yn rhan o’r cynllun”

Mae’r cynllun yn gweithio gyda chymunedau Llanfaelog a Llanddona ar hyn o bryd er mwyn edrych ar gynlluniau cymunedol i leihau carbon – y nod yn y pendraw yw rhannu arfer dda gyda chymunedau ar draws Ynys Môn.