Cyngor a ddarparwyd i Weinidogion Cymru ar gampfeydd dan do, meysydd chwarae dan do a thu allan a ffeiriau.

Rwyf wedi ystyried y diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac rwyf o’r farn eu bod yn darparu ar gyfer ffordd briodol a gofalus o ailagor bywyd cyhoeddus yng Nghymru. 

Mae’r cyngor yr wyf yn ei roi yn parhau i gael ei lywio gan waith Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) a Chell Cyngor Technegol Cymru (TAC), a hefyd gan drafodaethau gyda Phrif Swyddogion Meddygol y 4 Cenedl a’r Prif Gynghorydd Economaidd yng Nghymru. Yr hyn sy’n sail i’r diwygiadau arfaethedig yw’r ffaith bod coronafeirws yn parhau i gael ei drosglwyddo i raddau llai yng Nghymru, ein bod yn cadw gwell gwyliadwriaeth, bod ein Rhaglen Profi Olrhain Diogelu wedi cael ei sefydlu’n llwyddiannus, a’n bod wedi llwyddo i ganfod a rheoli achosion diweddar o goronafeirws yng Nghymru. 

Mae’n debyg y bydd angen inni fyw am gryn amser gyda’r posibilrwydd o don newydd o haint coronafeirws, a’r ffordd orau o’n diogelu rhag hyn yw parhau i annog y cyhoedd i ymddwyn mewn ffordd briodol, i fonitro profiadau rhyngwladol, ac i gadw gwyliadwriaeth effeithiol er mwyn canfod achosion newydd o’r clefyd. Bydd angen inni barhau hefyd i reoli achosion a chysylltiadau’n effeithiol, ac i roi trefniadau cadarn ar waith i ganfod a rheoli achosion.   

Cyngor cyffredinol

  1. Rwy’n argymell bod y diwygiadau arfaethedig yn cael eu mabwysiadu ar gyfer meysydd chwarae, campfeydd awyr agored a ffeiriau pleser, gan fabwysiadu’r mesurau lliniaru arfaethedig ar yr un pryd; glanhau’n rheolaidd, arwyddion a chanllawiau penodol ar derfynau newydd o ran capasiti, cadw pellter corfforol a hylendid da. Dylai’r canllawiau hefyd amlinellu’r drefn ar gyfer hyfforddi staff pan fo’n hynny’n briodol, a dylid hefyd gynnwys dolenni at y rhaglen Profi Olrhain Diogelu.  
  2. Rwy’n nodi bod ailagor meysydd chwarae, yn benodol, yn helpu i roi mwy o degwch i blant a’i fod yn rhoi rhagor o gyfleoedd iddynt gael profi dros wyliau’r haf y manteision y mae chwarae yn eu cynnig i iechyd y corff a’r meddwl.
  3. Rwy’n nodi bod cyflwyno’r newidiadau hyn er mwyn llacio’r cyfyngiadau yn risg dderbyniol ar hyn o bryd oherwydd bod nifer yr achosion o goronafeirws yn isel ac yn lleihau; os gwelir lefel uwch o drosglwyddo’r feirws, dylid ailedrych ar y sefyllfa a dylem gynllunio a pharatoi i ailgyflwyno’r cyfyngiadau yn rhannol neu’n llawn os bydd angen.
Keep Wales Safe