Bwyd

Mae'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn elfen bwysig o Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020. Fe'i cynlluniwyd i helpu cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yng Nghymru i ychwanegu gwerth at eu hallbynnau drwy ddarparu cymorth buddsoddi cyfalaf i'r busnesau hynny sy'n gwneud gweithgareddau prosesu cam cyntaf a/neu ail gam.

Fe'i cynlluniwyd hefyd i wella perfformiad a chystadleurwydd eu busnesau; ymateb i alw defnyddwyr; annog arallgyfeirio ac i nodi, manteisio ar farchnadoedd newydd sy'n datblygu ac sy'n bodoli eisoes a'u gwasanaethu.

Bydd y Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd yn agor ar 1 Hydref 2020 ac yn dod i ben ar 29 Hydref 2020 a gellir ei weld drwy ddilyn y linc yma: https://llyw.cymru/cynllun-buddsoddi-mewn-busnesau-bwyd