Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

Datgan Diddordeb - Rownd 6 nawr ar agor tan 16 Medi 2019

Mesur 16.2 (a) – Prosiectau Peilot

Yr amserlen

1.    Bydd y ffenestr hon ar gyfer datgan diddordeb CSCDS ar agor o 5 Awst 2019. 
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 16 Medi 2019.
Mae’n bosib cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ar unrhyw amser drwy gydol y cyfnod.

2.    Ni fydd rhagor o ffenestri ar gyfer y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio.

Y cyllid sydd ar gael

3.    Mae cyllideb o £8.216 miliwn ar gyfer Rownd 6 o’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio.

Cymhwyster

4.    Mae’n rhaid i’r gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau cydweithio ddangos bod o leiaf dau gorff yn rhan o’r prosiect arfaethedig.  Rhoddir blaenoriaeth i gynigion ar gyfer prosiectau a fydd yn gweithredu ledled Cymru neu ar sail isranbarthol sylweddol (tair neu fwy o Ardaloedd Awdurdodau Unedol) ac sy’n dangos yn glir bod ystod eang o gyrff yn cydweithio drwy: 

•    Amrywiol weithredwyr o fewn cadwyn cyflenwi a/neu
•    Creu clystyrau a rhwydweithiau

5.    Ni roddir blaenoriaeth i brosiectau a gynigir sydd â ffocws cul, fel ardal ddaearyddol leol neu gadwyn gyflenwi linellol gyfyngedig, na chynigion am brosiectau sy'n ymchwiliol neu’n astudiaethau ar gyfer technolegau neu dechnegau newydd nad ydynt yn cynnwys elfen gydweithredu a chydweithio sylweddol. 

Gall ymgeiswyr gyflwyno cwestiynau am eu Datganiadau o Ddiddordeb a’r broses drwy anfon neges e-bost at: CooperationScheme@gov.Wales  

Mae rhagor o wybodaeth am yr Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio yma: https://llyw.cymru/cynllun-datblygu-cadwyni-cyflenwi-a-chydweithio