Mae'r prosiect Next Tourism Generation (NTG) sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd mewn cydweithrediad â Tourism Society Cymru a PLANED yn gwahodd myfyrwyr o golegau a phrifysgolion yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ifanc (gan gynnwys y rheini sydd ar ffyrlo ac a ddiswyddwyd yn ddiweddar oherwydd Covid) gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch i gystadlu mewn cystadleuaeth unigryw. Gwahoddir ymgeiswyr i gynnig eu syniadau gorau ar sut y dylai dyfodol twristiaeth a lletygarwch edrych yng Nghymru a beth yw'r sgiliau a'r wybodaeth sy'n ofynnol i ddarparu datblygiad twristiaeth gynaliadwy. 

Mae ymchwil a wnaed gan y prosiect NTG wedi dangos tystiolaeth o'r galw am well cydweithredu rhwng addysgwyr, darparwyr hyfforddiant a’r diwydiant. Hefyd mae angen mynd i'r afael â bylchau sgiliau digidol a chynaliadwyedd yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. Mae'r uwchsgilio hwn yn bwysicach nag erioed i helpu i sicrhau bod y diwydiannau yn gallu adfer yn wydn o effeithiau’r pandemig. Nod y gystadleuaeth felly yw dod â myfyrwyr, gweithwyr proffesiynol ifanc a chynrychiolwyr blaenllaw'r diwydiant ynghyd i ragweld dyfodol cadarnhaol, nodi arfer gorau wrth ddysgu a dathlu llwybrau gyrfa yn y diwydiant.

Gall pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch sydd â phynciau yn ymwneud â thwristiaeth a theithio, lletygarwch, digwyddiadau, treftadaeth, a bwyd a diod yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ifanc (16 i 25 oed) gyflwyno eu gwybodaeth a'u syniadau arloesol i feirniaid arbenigol. Bydd pob cais yn derbyn adborth adeiladol gan feirniad a fydd yn fuddiol i'w ddatblygiad proffesiynol yn y dyfodol. Bydd enillwyr ar gyfer y pedwar categori noddedig ac enillydd drwyddi draw. Bydd pob enillydd categori yn ennill £250 yn ogystal â chyfle i ymuno â symposiwm rhithwir twristiaeth a lletygarwch cenedlaethol a fydd yn rhoi cyfle i rwydweithio gyda'r prif gyflogwyr ac yna seremoni wobrwyo yng Ngwanwyn 2021.

Y pedwar categori gwobr yw (1) Y Diwydiant twristiaeth a seilwaith (2) Offer a thechnoleg ddigidol (3) Yr amgylchedd ac ecoleg (4) Cymunedau lleol. 

Mae'r gystadleuaeth ar flaen y gad gan y bydd cystadleuwyr yn darparu cyflwyniad digidol fel fideo, cyflwyniad PowerPoint, gwefan neu ap. Hefyd, dyma'r unig gystadleuaeth twristiaeth a lletygarwch yn y DU sy'n annog ceisiadau yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Mae'r gystadleuaeth yn cau ar Fawrth 10  2021. 

Gellir dod o hyd i ffurflen gais a chanllawiau gan gynnwys y meini prawf beirniadu yma: 

https://nexttourismgeneration.eu/event/ntgwales2021/
https://nexttourismgeneration.eu/event/ntg2021-cymraeg/

Pwysleisiodd Louise Dixey, Cydlynydd Datblygu Prosiect NTG, “Mae'r gystadleuaeth hon yn taflu goleuni ar bobl ifanc a'u dyheadau i ddarparu gweledigaethau cadarnhaol o ddyfodol twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfle i ymgeiswyr arddangos eu hysbrydoliaeth a'u sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol."

Amlygodd John Walsh-Heron, Cadeirydd Tourism Society Cymru, “Mae'r gystadleuaeth hon yn cefnogi ein nodau yng Nghymru i ddod â sectorau twristiaeth ynghyd i rwydweithio a datblygu arfer gorau, cefnogi dysgu ac annog dealltwriaeth o dwristiaeth gynaliadwy. Heddiw mae gan bobl ifanc mewnwelediad unigryw o'r byd o'u cwmpas a gallant fod yn arloesol yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol gan ddangos ffyrdd newydd y gallwn agor ein cynnig lletygarwch."

Pwysleisiodd Iwan Thomas, Prif Swyddog Gweithredol PLANED, “Er y bydd y gystadleuaeth yn gorffen gyda symposiwm mentora rhithwir gwych dan arweiniad diwydiant arbenigol ar gyfer cyfranogwyr yn ogystal â seremoni wobrwyo yn y Gwanwyn, mae'r gystadleuaeth fel y mae PLANED yn ei deall hi, yn sail i rôl y sector mewn cymunedau ledled Cymru. Ni ellir tanbrisio rhyng-ddibyniaeth busnesau o fewn y sector, a'r effaith economaidd-gymdeithasol ehangach y maent yn ei chael ar gymunedau, yn enwedig ein cymunedau gwledig ac arfordirol. Mae PLANED yn gefnogol  i hyrwyddo arloesedd ymhlith y genhedlaeth nesaf o arweinwyr a llysgenhadon y sector i integreiddio a chefnogi'r dull cydlynol hwnnw ymhellach ar draws busnesau mawr a bach; cymunedau, gwledig a threfol.” 

Dyma'r 2il Gystadleuaeth Next Tourism Generation yng Nghymru. Yr brif enillydd yn 2020 oedd Evan Davies, myfyriwr o Goleg Sir Benfro sy’n anelu i fod yn Gogydd. Dywedodd Evan, “Roedd y gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i gynorthwyo yn fy nghyfiant personol a hyrwyddo fy ngyrfa ym maes lletygarwch. Mae'n hanfodol datblygu a meithrin gyrfaoedd ym maes lletygarwch oherwydd gall dysgu crefft newydd ehangu gorwelion."

Amlygodd enillydd arall yn 2020, Jenna O'Brien o Goleg Menai, “Mae'r gystadleuaeth hon wedi rhoi cyfle i mi fynegi fy angerdd a brwdfrydedd dros warchod amgylchedd, diwylliant ac iaith fy ardal, yn ogystal â fy helpu i sylweddoli beth maes twristiaeth gynaliadwy yr hoffwn ei ddilyn.”
 

PDF icon