Mae cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael eu hannog i ymuno â Gwanwyn Glân Cymru 2021 a helpu i godi’r sbwriel sydd wedi anharddu ein traethau, ein parciau a’n strydoedd ers i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ymuno â phob awdurdod lleol ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru eleni. Gyda’i gilydd, maent yn galw ar unigolion, aelwydydd, ysgolion a grwpiau cymunedol ffurfiol i lanhau’r strydoedd, parciau neu draethau ar eu stepen drws rhwng 28 Mai a 13 Mehefin.
Mae bron 200 o ymgyrchoedd glanhau ar hyd a lled Cymru eisoes wedi cael eu cofrestru ar gyfer Gwanwyn Glân Cymru, sydd yn rhan o Caru Cymru – y fenter fwyaf erioed i ddileu sbwriel a gwastraff.
Dywedodd lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Dros y deuddeg mis diwethaf, mae ein mannau awyr agored wedi bod yn bwysicach nag erioed o’r blaen i ni. Maent wedi bod yn noddfa yn ystod cyfnod heriol.
“Ond, yn anffodus, rydym wedi gweld ‘effaith sbwriel y cyfnod clo’ wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, gyda nifer fach o bobl hunanol yn dangos diffyg parch tuag at y mannau y maent wedi ymweld â nhw.
“Gwyddom fod cymunedau yn rhwystredig. Rydym ni’n rhwystredig. Beth am droi’r rhwystredigaeth yma yn weithredu a dangos cariad tuag at ein gwlad hardd. Does dim gwahaniaeth ble rydych yn byw na faint o amser sydd gennych i’w sbario – gallwch wneud gwahaniaeth a bod yn arwr sbwriel.
Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae Gwanwyn Glân Cymru hefyd yn rhan o Wanwyn Glân Prydain Fawr eleni. Am y tro cyntaf, gofynnir i wirfoddolwyr wneud addewid o’r munudau y byddant yn eu treulio yn glanhau eu hardal leol. Bydd y rhain yn cael eu troi’n filltiroedd a’u hychwanegu at gyfanswm y DU. Y nod yw cerdded miliwn o filltiroedd ar y cyd.