Shearing

Bydd y cyfnod ymgeisio cyntaf ar gyfer rhaglen sgiliau Cyswllt Ffermio yn 2020 yn agor am 09:00 ddydd Llun 6 Ionawr ac yn cau am 17:00 ddydd Gwener 28 Chwefror. 

Wrth i sawl opsiwn ymarfer wyneb yn wyneb gael eu hychwanegu at yr ystod gynhwysfawr o gyrsiau hyfforddiant masnachol, technegol ac ymarferol sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio, mae’r amser wedi dod i ystyried eich opsiynau er mwyn eich helpu chi a’ch busnes i baratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sy’n bodoli tu allan i’r UE. 
 
Mae’r rhaglen, a ddarperir gan Lantra Cymru ar ran Cyswllt Ffermio, yn cynnig ystod gynhwysfawr o hyfforddiant mewn sawl fformat ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.  Ariennir Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Dywed Cyfarwyddwr Lantra Cymru, Kevin Thomas, ei bod yn hanfodol i feddu ar y sgiliau angenrheidiol i redeg eich busnes yn effeithlon ym mhob maes wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer amodau masnachu’r dyfodol.   

“Rwy’n annog busnesau cofrestredig i ystyried eu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant, canolbwyntio ar y meysydd y maent yn gwybod bod angen eu cryfhau a chyflwyno’u ceisiadau.

“Er y bydd rhagor o gyfleoedd i gofrestru yn ystod y flwyddyn, rydym ni’n awyddus i annog pob aelod cymwys o’ch teulu sydd heb gofrestru hyd yma i gofrestru nawr ac i fanteisio ar yr ystod helaeth o gyrsiau sydd ar gael.  

“Mae’r holl gyrsiau hyfforddiant naill ai wedi’u hariannu’n llawn, neu wedi’u hariannu hyd at 80% ar gyfer busnesau cofrestredig ac os mae eich busnes wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yna gallwch chi, eich teulu a gweithwyr PAYE ddewis unrhyw hyfforddiant sydd arnynt ei angen.

Dylai unrhyw unigolion sydd angen cofrestru gyda Cyswllt Ffermio neu sydd eisiau diweddaru eu manylion cyfrif alw Canolfan Gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813 cyn 17:00 ddydd Llun 24 Chwefror 2020.

Ar hyn o bryd, mae Cyswllt Ffermio yn cynnig oddeutu 80 o gyrsiau hyfforddiant wyneb yn wyneb.  Mae’r cyrsiau’n cael eu hariannu ar wahanol gyfraddau, gyda hyfforddiant gwella busnes a hyfforddiant technegol yn cael eu hariannu hyd at 80%, a chyrsiau defnyddio peiriannau ac offer yn cael eu hariannu ar gyfradd o hyd at 40%. 

Mae testun pob cwrs yn trafod pynciau sydd wedi’u categoreiddio ar draws tair thema allweddol yn ymwneud â busnes, tir a da byw. Trafodir ystod eang o bynciau, yn ogystal â hyfforddiant arbenigol TG ac iechyd a lles anifeiliaid a ariennir yn llawn, ac maent yn cynnwys hyfforddiant rheoli busnes a chyllid; rheoli pobl; cyrsiau er mwyn eich helpu i gynllunio prosiect arallgyfeirio neu fenter newydd, hyd at reoli tir a glaswelltir, hyfforddiant bwyd a ffermio. 

“Trwy fynd i wefan Cyswllt Ffermio gallwch weld rhestr o’r holl gyrsiau penodol sydd ar gael ar gyfer pob sector, ynghyd â’r wybodaeth a’r cyfarwyddyd sydd angen arnoch i ymgeisio. 

“Gan aros yn atebol i’r galw, mae’r ystod o hyfforddiant a ddarperir yn datblygu’n barhaus ac rydym ni’n credu bod gennym ni rywbeth i’w gynnig i bob unigolyn ym mhob busnes yng Nghymru,” meddai Mr Thomas.

Bydd system recordio Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) newydd Cyswllt Ffermio, sef Storfa Sgiliau (Skills Store), yn eich galluogi i gadw golwg ar yr holl wybodaeth a drosglwyddwyd ac unrhyw weithgareddau hyfforddiant rydych wedi mynychu drwy raglen bresennol Cyswllt Ffermio yn ogystal ag unrhyw gymwysterau addas neu brofiad gwaith. Er mwyn cael mynediad at y Storfa Sgiliau mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac wedi mewngofnodi i’ch cyfrif BOSS drwy Sign on Cymru.

Cyn ymgeisio am hyfforddiant, bydd rhaid i bob ymgeisydd gwblhau cynllun datblygiad personol ar-lein (PDP) Cyswllt Ffermio.  Mae cefnogaeth ar gael mewn gweithdai arbenigol PDP, a drefnir naill ai gan Cyswllt Ffermio ac yna’n cael eu mynychu gan swyddog rhanbarthol Cyswllt Ffermio neu un o’r darparwyr hyfforddiant cymeradwy. 

Am restr lawn o holl gyrsiau Cyswllt Ffermio a darparwyr hyfforddiant cymeradwy, rhagor o wybodaeth ar y broses ymgeisio sgiliau, y broses Cynllun Datblygiad Personol (PDP) a gweithdai sydd ar y gweill, yn ogystal â’r Storfa Sgiliau, ewch i www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu ffoniwch Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813. Neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.