Heddiw, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys Ddiweddariad Economaidd yr Haf o dan amgylchiadau eithriadol o anodd.

Rydym yn y dirwasgiad dyfnaf ers cyn cof o ganlyniad i’r angen i atal y rhan fwyaf o weithgareddau economaidd nad ydynt yn hanfodol, yn sgil y pandemig coronafeirws. Fis Ebrill, roedd economi’r DU 25% yn llai nag yr oedd ym mis Chwefror.

Caiff y cynlluniau a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw eu cyflwyno cyn manylion diweddariad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i’w senario Coronafeirws ar gyfer y DU yn ei Hadroddiad Cynaliadwyedd Cyllidol ar 14 Gorffennaf. Bydd yr adroddiad hwn yn diweddaru’r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus y DU.

Mae tystiolaeth gynyddol o galedi yn y farchnad lafur wrth i Lywodraeth y DU weithredu ei chynlluniau i gwtogi a chau’r Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod y Coronafeirws. Mae’r Resolution Foundation yn amcangyfrif y gallai miliwn o weithwyr sydd ar ffyrlo golli eu swyddi.

Rydym wedi canmol effeithiolrwydd y cynlluniau hyn. Cawsom ein siomi nad oedd dim sicrwydd heddiw ynghylch a fyddant yn cael eu hailgyflwyno pe bai yna gyfyngiadau lleol pellach neu ail don o achosion. Er ein bod yn croesawu’r bonws cadw swyddi, mae’n cymryd yn ganiataol y byddwn yn parhau ar lwybr esmwyth allan o’r argyfwng ac nid yw’n ystyried beth fydd yn digwydd pe bai yna ail don.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dull ymyrraeth o gefnogi busnesau, cymunedau ac unigolion yng Nghymru, fel y mae ein Cronfa Cadernid Economaidd yn ei ddangos. Rwy’n falch o weld bod y Canghellor yn bwriadu efelychu, i bob pwrpas, raglen Twf Swyddi Cymru Llywodraeth Cymru yn ei gynllun ar gyfer swyddi. Byddwn ni’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau bod y cynllun hwn o fudd gwirioneddol i bobl ifanc Cymru.

Ni fydd Cynllun Swyddi’r Canghellor ar ei ben ei hun yn ddigonol i adfywio’r economi a dylai gael ei ategu gan becyn cynhwysfawr o fesurau ymarferol ar gyfer y farchnad lafur, gan gynnwys buddsoddiad mwy uchelgeisiol mewn hyfforddiant a sgiliau.

Rydym wedi annog Llywodraeth y DU yn gyson i ddefnyddio hefyd yr ysgogiadau macro-economaidd sydd ar gael iddi er mwyn gweithredu mesurau lles a threthu sy’n cefnogi’r grwpiau mwyaf agored i niwed a thlotaf yn ein cymdeithas. Rydym yn gwybod mai’r bobl hyn sy’n dioddef fwyaf mewn dirwasgiad.

Wrth i ddiweithdra gynyddu, mae’n hanfodol bod y system fudd-daliadau yn darparu cymorth digonol i ddinasyddion agored i niwed, sy’n colli eu swyddi heb fai arnyn nhw o gwbl. Rhaid i Lywodraeth y DU roi’r gorau i’r diwygiadau a’r toriadau lles niweidiol sydd wedi’u gweithredu dros y deng mlynedd diwethaf.

Mae’n siomedig nad yw’r Canghellor wedi dewis lleihau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr na chynyddu trothwy Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a fyddai’n lleihau costau llafur i gyflogwyr, yn annog creu swyddi yn ogystal â chadw swyddi ac yn lleddfu effaith dirwyn y Cynllun Cadw Swyddi i ben.

O ran y newidiadau yn Lloegr i Dreth Dir y Dreth Stamp, ar hyn o bryd ein Treth Trafodiadau Tir sydd â’r trothwy cychwynnol uchaf yn y DU, gan fod o fudd i bobl sy’n prynu tŷ yng Nghymru yn yr hirdymor. Rydym wrthi’n ystyried beth fydd y newidiadau i Dreth Dir y Dreth Stamp yn ei olygu i’n cyfraddau treth ni, ar y cyd â’n cynlluniau i ailagor y farchnad dai. Byddwn yn parhau i weithredu polisi trethi sy’n cael ei lunio yng Nghymru ac sy’n briodol ar gyfer yr adferiad economaidd.

Er fy mod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ostwng y gyfradd Treth ar Werth ar gyfer y sector lletygarwch, sydd wedi’i daro’n arbennig o drwm yn ystod y cyfnod digynsail hwn, dylai Llywodraeth y DU hefyd sefydlu cynlluniau diogelu swyddi mewn sectorau sy’n dal ar gau neu sydd wedi’u heffeithio’n sylweddol gan fesurau COVID-19 – sectorau megis twristiaeth, y diwydiant awyrofod, y diwydiant modurol a’r diwydiant dur. Nid yw’r cynllun ‘Estyn Llaw drwy Fwyta Allan’ yn ddigonol i sicrhau’r ymateb uchelgeisiol sydd ei angen.   

Mae’n peri siom imi cyn lleied oedd gan y Canghellor i’w ddweud am gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus wrth iddyn nhw barhau i ymateb i’r argyfwng. Bydd gwasanaethau cadarn o ran iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol yn hanfodol i’r adferiad, a dylai Llywodraeth y DU ymrwymo i ddarparu’r cyllid ychwanegol sydd ei angen ar ein gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni’r hyn sy’n angenrheidiol. Gan fod cyfraddau llog ar fenthyca yn dal yn isel, gallai Llywodraeth y DU wneud mwy i ysgogi a chynnal gwariant cyhoeddus fel rhan o’r ymateb i’r pandemig ac i helpu’r i adfer yr economi. 

Heb unrhyw gyllid ychwanegol a heb yr hyblygrwydd cyllidebol y gwnaethom ofyn amdano, mae ein gallu i ymateb i argyfwng COVID-19 ac i adfer yn ei sgil yn cael ei lesteirio. Yn llawer rhy aml, mae cyhoeddiadau cyllid Llywodraeth y DU yn cael eu cyflwyno fel rhai newydd, er nad oes unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei greu ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig.

Mae gennym gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru gyfan y gallem eu rhoi ar waith petai mwy o gyllid cyfalaf ar gael, a phe bai sicrwydd ynglŷn â faint o gyllid refeniw y gallwn ei ddisgwyl gan Lywodraeth y DU eleni.

Mae angen inni gael eglurder ar unwaith ynglŷn â’r hyblygrwydd ariannol a chyllidebol sydd ar gael, i’n galluogi i ymateb i’r argyfwng mewn modd sy’n cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a sut y mae’n bwriadu sicrhau bod y broses bontio wrth inni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn un esmwyth.   

Mae nifer o’r mesurau a gyhoeddwyd heddiw, a’r wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU, gan gynnwys y Grant Cartrefi Gwyrdd a rhaglen adeiladu cyfalaf ar gyfer ysgolion, yn fesurau yr ydym ni eisoes yn eu gweithredu yng Nghymru.

Mae ein Rhaglen Cartrefi Clyd yn targedu aelwydydd sydd yn yr angen mwyaf ac sy’n wynebu tlodi tanwydd. Mae wedi bod o fudd i dros 55,000 o gartrefi ac mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £327m. Mae gennym hefyd raglen fuddsoddi uchelgeisiol, gwerth £2bn, yn yr arfaeth ar gyfer y 5 mlynedd nesaf yn ein hystad addysg drwy’r rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Byddai cyllid cyfalaf ychwanegol yn ein galluogi i roi’r prosiectau hyn ar waith yn gyflymach.

Er bod datganiad y Canghellor heddiw yn cynnwys rhai cyhoeddiadau sydd i’w croesawu, nid yw’n dod yn agos at yr hyn sydd ei angen ar gyfer graddfa’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae angen cymryd camau mwy helaeth a phellgyrhaeddol i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn ac ailgodi’n gryfach.