lets get digital

Mae dylunwyr gemau uchelgeisiol o bob rhan o gymoedd de Cymru wedi cael hyfforddiant gan arbenigwyr sgiliau digidol fel rhan o'r fenter gymdeithasol, GoConnect, a rhaglen Cynllun Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd ar gyfer Caerffili a Blaenau Gwent.

Y rhaglen ‘Let’s get Digital’ yw'r ddiweddaraf mewn cyfres o fentrau gan GoConnect sydd wedi'u cynllunio i ddarparu mynediad gwell at addysg ddigidol arbenigol ar gyfer oedolion ifanc sy'n byw yng nghymunedau gwledig Caerffili a Blaenau Gwent i helpu mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau cynyddol ac agor llwybrau i gyfleoedd cyflogaeth yn y gweithle digidol.

Nod y prosiect yw tynnu sylw at bwysigrwydd technoleg ddigidol yn y gymuned ehangach, yn enwedig yn achos y bobl ifanc hynny yr ystyrir eu bod nhw ymhlith y pellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur. Credir y gall y cyfleoedd cynyddol yn y diwydiant gemau ddod yn ffynhonnell gyflogaeth gynyddol yn yr ardal os gellir datblygu'r sylfaen sgiliau. 

Roedd y diwydiant gemau fideo byd-eang werth $78.61 biliwn yn 2017, a disgwylir iddo dyfu i fwy na $90 biliwn erbyn 2020. Mae hynny'n fwy na ddwywaith gwerth y diwydiant ffilmiau rhyngwladol; a gydag ychydig dros 80% o'r farchnad yn perthyn i werthiannau meddalwedd, mae gan ddatblygwyr gemau fwy o gyfleoedd i ddylunio, adeiladu a gwerthu nag erioed o'r blaen.

Meddai Alun Prosser, Cyfarwyddwr GoConnect, sef y fenter gymdeithasol sy'n rhedeg y prosiect, fod galw am ragor o fynediad at hyfforddiant o ran dylunio gemau, codio a sgiliau hanfodol eraill yn y diwydiant: “Rydyn ni wedi cynnal nifer o weithdai yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydyn ni wedi sylwi bod llawer o bobl ifanc eisiau dysgu am ddylunio gemau a chodio, ond nid oes ganddyn nhw'r cymwysterau i gael lle ar gyrsiau coleg ffurfiol na'r wybodaeth am sut i fynd i mewn i'r diwydiant. O ystyried bod cymaint o alw yn genedlaethol am unigolion â sgiliau digidol, roedd yn ymddangos bod hon yn ffordd berffaith o helpu pobl i gael mynediad i'r llwybr hwnnw. Gyda chymorth rhaglen Cwm a Mynydd, rydyn ni wedi gallu gweithio tuag at gyflawni hyn."

“Mae'r gweithdai'n darparu profiad ymarferol o ran dylunio gemau fideo a meithrin nifer o sgiliau trosglwyddadwy ar hyd y ffordd – gan gynnwys gwaith datblygu, adrodd storïau gweledol, a sgiliau llythrennedd a digidol.”

Mae twf llwyfannau gemau digidol – fel Steam – yn golygu nad oes angen i ddylunwyr gemau berthyn i gyhoeddwyr enfawr – fel EA, Activision neu Nintendo – i adeiladu, marchnata a dosbarthu eu gemau.

Aeth Alun yn ei flaen i ddweud er ei bod hi'n farchnad gystadleuol, mae rhai straeon llwyddiant ysbrydoledig: “Mae rhai enghreifftiau gwych o gemau gan unigolion sydd wedi mynd ymlaen i fod yn llwyddiannus ym mhedwar ban byd – fel Ndemic Creations o Fryste a lansiodd ‘Plague Inc’ yn 2012. Yn wreiddiol, cafodd y gêm ei sefydlu fel hobi gan ei chreawdwr, James Vaughan, ac mae hi wedi mynd ymlaen i werthu dros 85 miliwn o gopïau, a hi yw'r bumed gêm am dâl fwyaf poblogaidd erioed ar ddyfeisiau symudol."

“Hyd yn oed yn nes at adref, gallwch chi edrych at Wales Interactive o Bencoed, sef datblygwr gemau annibynnol sydd wedi rhyddhau dros 20 o gemau ar draws 10 o lwyfannau ac wedi ennill nifer o wobrau – gan gynnwys gwobrau BAFTA, gwobrau'r diwydiant a gwobrau busnes.”

Y gobaith yw y bydd y sgiliau a'r profiad sy'n cael eu meithrin drwy'r gweithdai yn helpu pobl ifanc i gael lle ym myd addysg bellach neu yrfa yn y diwydiant.

Meddai Caleb Chandler, 22 oed, a gymerodd ran yn y cwrs fod y gweithdai wedi ei helpu i ddatblygu ei sgiliau codio ymhellach: “Roeddwn i newydd ddysgu cryn dipyn am godio drwy fy nghwrs Technoleg Gwybodaeth yn y coleg, ond rhoddodd y gweithdai hyn gyfle i mi roi theori ar waith." 

“Gall sgiliau Technoleg Gwybodaeth – fel codio a dylunio – gael eu defnyddio ar draws nifer o wahanol swyddi a diwydiannau oherwydd eu bod nhw mor drosglwyddadwy. Mae dysgu sut i godio ac adeiladu gemau yn y gweithdai hyn yn golygu fy mod i'n dysgu sut i ddefnyddio'r theori a ddysgais i yn y coleg mewn ffyrdd newydd a newidiol.”

Meddai'r Cynghorydd George, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Lleol Rhaglen Datblygu Gwledig Cwm a Mynydd ac Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros yr Amgylchedd a Gwasanaethau'r Gymdogaeth: “Wrth i'n heconomi wledig newid – gyda'r defnydd cynyddol o sgiliau digidol a'r cyfleoedd y mae hyn yn eu cynnig – mae'r rhaglen Cwm a Mynydd wedi mwynhau helpu GoConnect, a'r bobl ifanc y mae'r fenter honno wedi gweithio gyda nhw o bob rhan o'n wardiau gwledig, i feithrin eu sgiliau technegol yn ogystal â'u sgiliau trosglwyddadwy.”

Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd yn cael ei ariannu drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw gweithio gyda phartneriaid i fanteisio ar dechnolegau digidol a'u manteision o ran cyflogaeth, gwasanaethau a chryfhau'r economi wledig. 

Aeth y Cynghorydd George yn ei flaen i ddweud: “Mae'r hyn y mae'r bobl ifanc wedi'i gyflawni drwy'r prosiect hwn wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig, ac rydyn ni'n eu llongyfarch nhw ac yn edrych ymlaen at weld y gêm fwyaf poblogaidd nesaf yn dod o Gymru.” 

Am ragor o wybodaeth am y gweithdai sgiliau digidol, neu sut y bydden nhw'n gallu eich helpu chi, cysylltwch â thîm GoDigital ar 029 2167 9065 neu e-bostio alun@goconnectwales.org.uk

 

PDF icon