Trees being planted

Pŵer datrysiadau seiliedig ar natur - pwynt cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ei bywyd gwyllt a’r hinsawddPŵer datrysiadau seiliedig ar natur - pwynt cadarnhaol ar gyfer pobl Cymru, ei bywyd gwyllt a’r hinsawdd

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno manylion Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndir cyntaf Cymru, ac yn cynnig mewnwelediad i brosiectau datrysiadau eraill sy’n seiliedig ar natur sy’n cael eu cynnal yng Nghymru. Un o’r uchafbwyntiau fydd rhannu adroddiad newydd wedi’i gomisiynu gan Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF), sy’n arddangos ffyrdd newydd y gall datrysiadau sy’n seiliedig ar natur effeithio ar yr hinsawdd.

Plannu hadau uchelgais - ffermio wrth wraidd defnydd cynaliadwy o’r tir yn y dyfodol (dan ofal Undeb Amaethwyr Cymru, Hybu Cig Cymru, Y Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr – NFU Cymru) 

Sut ydym yn cyflawni sero net wrth wella bioamrywiaeth? Dyma fydd y cwestiwn wrth wraidd y ddadl ar sut mae amaethyddiaeth Cymru wedi’i leoli’n unigryw i arwain y byd o ran cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. Bydd panelwyr yn trafod sut i integreiddio coed mewn systemau ffermio, gwella effeithlonrwydd cynhyrchu ffermydd, rôl a defnydd cyfrifianellau carbon, pori ar gyfer bioamrywiaeth, diogelwch bwyd cynaliadwy a’r cyfleoedd a’r risgiau sydd ynghlwm â’r farchnad garbon.

Gweithio gyda gwlypdiroedd - rhan bwysig o ddatrysiad natur (dan ofal Dŵr Cymru) 

Efallai nad ydym yn gwbl ddiduedd, ond prin yw’r bobl nad ydynt yn cytuno bod Cymru’n gartref i rai o’r cynefinoedd naturiol mwyaf rhyfeddol - sydd hefyd, wrth gwrs, yn gartref i’n bywyd gwyllt gwerthfawr. Yn y sesiwn hon, bydd Dŵr Cymru’n egluro ei rôl wrth sicrhau bod cynefinoedd ac amgylcheddau lleol yn cael eu gwarchod, yn ogystal â’u gwella, ac yn cael digon o le i ffynnu mewn byd newidiol. Bydd pwyslais penodol yn cael ei roi ar warchod ac ehangu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ledled Cymru, a buddsoddiad gwerth £200m i’n hafonydd dros y pedair blynedd nesaf.

Gallwch gofrestru ar gyfer digwyddiadau COP Cymru 2021 yma: https://freshwater.eventscase.com/CY/COPCymru21/Programme

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn helpu gydag atebion sy'n seiliedig ar Natur i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd drwy'r Cynllun Rheoli Cynaliadwy, drwy brosiectau amrywiol y mae rhai ohonynt wedi'u hamlygu isod. 

 

Prosiect gwella gwasanaethau ecosystemau Fferm Ifan

Prosiect cydweithredol dan arweiniad ffermwyr i gymryd camau ar raddfa’r dirwedd gyfan i gryfhau’r ecosystem a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a hynny drwy ddulliau rheoli tir. Mae 11 o ffermwyr yn rhan o brosiect Fferm Ifan, a’r nod yw gwella a rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd fwy cynaliadwy ac effeithlon. 

Mae tua 2,456 Ha wedi’u cynnwys yn y prosiect, a chaiff dulliau rheoli tir penodol eu cyflwyno a fydd hefyd yn sicrhau buddion economaidd-gymdeithasol i’r 11 o ffermydd a’r gymuned wledig ehangach y mae Fferm Ifan yn rhan ohoni

Ffermio Gwastadeddau Gwent yn Gynaliadwy

Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn cynnwys RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent, sy’n cydweithio’n agos â ffermwyr a phartneriaid eraill i feithrin dealltwriaeth, gwybodaeth, sgiliau a phrofiad er mwyn medru cyflwyno dulliau cynaliadwy o reoli adnoddau naturiol ar Wastadeddau Gwent. 

Bydd y ffermwyr a’r partneriaid eraill yn cymryd camau i wella ansawdd y dŵr a gwella a chreu cynefinoedd, gan wella cyflwr y pridd, a sefydlu stribedi cynefin ar gyfer peillwyr, a fydd hefyd yn gweithredu fel tir clustog ar gyfer cyrsiau dŵr. Bydd pob cam yn anelu at wella yr amgylchedd ar Wastadeddau Gwent i bobl a natur, tra’n cefnogi busnesau fferm cynaliadwy.

Gallwch ddarganfod yr holl gwaith da mae prosiectau a ariennir gan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy o ledled Cymru wedi gwneud drwy glicio yma.

Nod y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yw cefnogi'r gwaith o wireddu ymrwymiad Llywodraeth Cymru at ddatblygu cynaliadwy fel y'i nodwyd yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Pwrpas y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yw cefnogi prosiectau cydweithredol sy’n gweithredu ar raddfa tirwedd, a cheisio gwella a chryfhau ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau mewn ffordd sydd hefyd yn sicrhau manteision i fusnesau fferm a iechyd a lles cymunedau gwledig.  Mae prosiectau y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn gweithredu i wella bioamrywiaeth; gwella y seilwaith gwyrdd; cynnal gwaith rheoli tir a dŵr gwell, ac yn bwysig iawn, hwyluso a lliniaru y broses o addasu i’r newid yn yr hinsawdd.