Coetir event

Cynhelir Diwrnod Agored Coetir Anian ar ddydd Sadwrn, 5ed o Fehefin i gyd-fynd â lansiad Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystem 2021 - 2030 a Diwrnod Amgylchedd y Byd.

River trekking

Cynhelir y diwrnod ar safle Coetir Anian, yng Nglaspwll ger Machynlleth lle mae 350 erw o dir yn cael eu hadfer i gynefinoedd naturiol o rostir, cors a choetir. Prynwyd Bwlch Corog gan Goed Cadw yn 2017 ac fe’i prydlesir i Sefydliad Tir Gwyllt Cymru gyda’r ddwy elusen yn gweithio mewn partneriaeth i adfer coetir brodorol a chynefinoedd eraill. Derbyniodd Coetir Anian gyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig - Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Bydd y diwrnod agored wedi’i seilio ar ddwy daith gerdded dywysedig o'r safle am 10yb a 2yp – lle ceir cyfle i fwynhau sgyrsiau byr am gynefinoedd coetir a mawndir a gwaith y prosiect. Bydd amrywiaeth o weithgareddau plant ar gael yn ogystal ag arddangosfa boster ynglŷn â Choetir Anian yn y sied newydd a adeiladwyd gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy.

Ni does tâl ar gyfer mynychu’r Diwrnod Agored. Bydd yn rhoi cyfle i weld beth mae Coetir Anian yn ei wneud eisoes yn y dirwedd hardd hon a chlywed am gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Covid, gofynnir i bobl gysylltu â'r elusen i archebu lleoedd, naill ai ar gyfer 10yb neu 2yh. Cyswllt: post@coetiranian.org

Menter byd-eang yw Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau i atal, rhwystro a gwrthdroi diraddiad ecosystemau ledled y byd. Mae ecosystemau iachach sydd â mwy o fywyd gwyllt yn darparu nifer o fuddion, fel priddoedd mwy ffrwythlon, mwy o gynnyrch, a storfeydd mwy o nwyon tŷ gwydr. Dim ond gydag ecosystemau iach y gallwn wella bywoliaeth pobl, gwrthweithio newid yn yr hinsawdd, ac atal cwymp bioamrywiaeth.

Meddai Simon Ayres, Cyfarwyddwr Coetir Anian, “Ein nod yw chwarae'r rhan lawnaf y gallwn yn ystod y degawd pwysig hwn. Mae'r ffeithiau ar ddinistr parhaus bywyd gwyllt a chynefinoedd ledled y byd yn glir. Rhaid i ni wrthdroi hyn. Ni all elusennau gyflawni hyn ar eu pennau eu hunain, mae angen i bob cymdeithas gymryd rhan. Rydym yn galw ar lywodraethau a busnesau i gyfrannu eu hadnoddau aruthrol i amddiffyn ac adfer ecosystemau.”