woodland

I ddathlu Diwrnod Amgylchedd y Byd, mae Llywodraeth Cymru yn creu dwy gronfa newydd fydd yn helpu pobl ledled y wlad i greu lleoedd ar gyfer natur yn eu cymunedau, unwaith y cawn fynd heibio’r pandemig hwn.

A ninnau o dan gyfyngiadau, mae llawer ohonom wedi dod i sylweddoli mor bwysig i’n lles yw amgylchedd naturiol Cymru.

Mae llawer o bobl yn cael eu hymarfer corff dyddiol yn eu parciau neu eu hardaloedd gwyrdd lleol, yn gwylio natur Cymru’n cael ei ffrydio ar-lein ac wedi cefnogi eu cynhyrchwyr bwyd lleol sy’n gofalu am ein hamgylchedd naturiol bob dydd o’r flwyddyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn Argyfwng Hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac mae cyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau wedi dweud eu bod yn benderfynol o chwarae fwy o ran i leihau ein hallyriadau, i addasu i’r newid yn yr hinsawdd a diogelu’n hamgylchedd naturiol.

Er gwaetha’r pandemig, mae’r ymrwymiad hwnnw wedi tyfu gan sbarduno trafodaeth fywiog am yr angen i roi mwy o sylw i weithredu dros natur wrth i’r wlad ymadfer ar ôl Covid-19.

Mae’r ddwy gronfa ar agor nawr –

Cronfa Grant Coetir Cymunedol y Goedwig Genedlaethol: https://www.heritagefund.org.uk/cy/publications/canllawiau-lleoedd-lleol-ar-gyfer-natur

Chronfa Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur: https://www.heritagefund.org.uk/cy/publications/canllawiau-ar-goetiroedd-cymunedol -  ar gyfer cymunedau a mudiadau i’w helpu i ymateb i argyfwng yr hinsawdd.

Mae’r cronfeydd yn cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda’r Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn delio â’r ceisiadau.

Bydd ymgeiswyr yn cael ceisio am y ddau grant o heddiw ymlaen. Rydym yn gobeithio gallu cymeradwyo ceisiadau cyn pen wyth wythnos.

O dan y cyfyngiadau presennol, er bod y canllawiau’n caniatáu i waith elusennol fynd yn ei flaen o dan y rheol dau fetr, disgwylir i elusennau gyfyngu ar nifer yr aelodau fydd yn cael cymryd rhan – er y gall hynny newid wrth i’r canllawiau newid.

Bydd sefydliadau di-elw yn cael gwneud cais am Grant Coetir Cymunedol y Goedwig Genedlaethol i gynnal prosiectau coetir er lles cymunedau lleol ac i roi hwb i ecosystemau.

Gallai hynny olygu creu coetir newydd ar safle diffaith, plannu coed ar strydoedd mewn ardaloedd trefol neu greu coridor newydd o goed i gysylltu dau goetir.

Un rhan yn unig yw’r cynllun o raglen y Goedwig Genedlaethol a gyhoeddwyd yn y gwanwyn sydd am weld creu rhwydwaith ecolegol fydd yn estyn ar draws Cymru.

Gellir defnyddio’r gronfa hefyd i dalu am welliannau i goetiroedd sy’n bod eisoes, trwy adeiladu llwybrau neu wella mynediad.

Bydd Cronfa Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn rhoi cyfle i bobl greu lle ar gyfer natur ar garreg eu drws.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at fudiadau cymunedol i adfer a gwella natur yn eu bröydd, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru ac i bobl sydd heb fawr o gyfle i fwynhau natur.  Amcan y gronfa yw creu lleoedd ar gyfer natur ledled Cymru, lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd prosiectau yn cael eu harwain gan gymunedau, ar dir, mewn afonydd ac yn y môr, i greu lleoedd gwyrdd yn ein trefi, dolydd a lleiniau wrth ochr ffyrdd i ddenu pryfed peillio ac i helpu i leihau’r bygythiadau i natur fel llygredd a rhywogaethau goresgynnol ac estron.  Y nod yw cefnogi amrywiaeth o brosiectau fydd yn hyrwyddo natur ledled Cymru.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae agor y cronfeydd newydd hyn heddiw yn adlewyrchu ymrwymiad mudiadau a chymunedau yng Nghymru i wneud mwy dros natur, hyd yn oed yn y dyddiau anodd hyn.  Rydym wedi gweld mwy o werthfawrogiad o natur yn ystod y pandemig ac o’r ffordd y mae’n hiechyd, ein heconomi a’n lles yn dibynnu arno.

Y cyngor iechyd ar hyn o bryd yw ‘cadw’n lleol’ a rhaid manteisio ar y cyfle hwn i ganolbwyntio ar bwysigrwydd ein bröydd – ein bywyd gwyllt lleol, cynhyrchwyr ein bwyd a’n heconomi sylfaen.  Yn ogystal â bod yn llesol i’n hiechyd a’n ffyniant, mae’r ffocws lleol hwn yn dda i’r amgylchedd naturiol, yma yng Nghymru a thu hwnt.

Er y bydd y rheolau presennol yn golygu y bydd mwy o gyfyngu nag yr hoffem ei weld ar faint o bobl fydd yn cael cymryd rhan yn y prosiectau i ddechrau, rydym yn hyderus y bydd y prosiectau hyn yn llwyfan ar gyfer rhagor o weithredu cymunedol er lles natur yn y dyfodol.

Bydd creu’r lleoedd newydd hyn ar gyfer natur trwy’r cynlluniau rydym yn eu hagor heddiw yn rhoi cyfleoedd i gymunedau ddod ynghyd, i gael eu hysbrydoli ac i gyflymu’r gweddnewidiad sydd ei angen ar ein heconomi a’n cymdeithas iddyn nhw allu ymateb i argyfwng yr hinsawdd ac i atal a gwyrdroi’r dirywiad yn ein bioamrywiaeth.

Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, ymddiriedolwr y DU a chadeirydd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:

Bydd yr arian newydd hwn gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn helpu i adfer a chyfoethogi treftadaeth naturiol bwysig Cymru. 

Bydd yn helpu i ailgysylltu pobl â byd natur sy’n aml yn cael ei ddiystyru, i greu natur wrth garreg eu drws ac i ddiogelu’r natur hwnnw am flynyddoedd i ddod.