dafad ac oen mewn cae

Mae rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol yn egwyddor ganolog i flaenoriaethau Rhaglen Datblygu Cynaliadwy (RhDG) Cymru.  Mae’r egwyddor yn cydnabod trwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, meithrin arloesedd, creu dulliau rheoli tir cytbwys, cawn reolaeth fwy cynaliadwy ar adnoddau naturiol i’w gwneud yn fwy cydnerth.

Er mwyn helpu RhDG Cymru i wireddu ei hamcanion a’i nod, mae Rhwydwaith Gwledig Cymru (RhGC) wedi cynnal pedwar digwyddiad ar thema Gwlân a thecstilau. 

Yr amcan yw adeiladau ar ein rhwydweithiau a chreu partneriaethau newydd i sbarduno syniadau newydd ac annog cydweithio i ddatblygu a chryfhau cadwyn cyflenwi gwlân Cymru; gan wneud ychwanegu at werth a lleihau gwastraff yn nodweddion pwysig. 

Cafodd y Grŵp Trafod Gwlân a Thecstilau diweddaraf ei gynnal ar Microsoft Teams ar 24 Tachwedd.  Cymerodd 30 a mwy o bobl ran, gan gynrychioli pob cwr o’r gadwyn gyflenwi.  Cafodd is-grwpiau trafod eu creu i drafod gweledigaeth, amcanion a nodau ar gyfer gwlân Cymru, a blaenoriaethau i’r grŵp ganolbwyntio arnyn nhw. 

Mae’r pandemig presennol wedi nodi pwysigrwydd cadwyni cyflenwi a’r angen am fwy o gydnerthedd lleol ac i ddiogelu adnoddau gwerthfawr.  I’r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Adferiad Gwyrdd yng Nghymru fydd yn gwarchod yr amgylchedd ac yn caniatáu i’n heconomi leol ffynnu.  Mae’r grŵp yn gwneud gwaith pwysig gan y bydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru, gan gynnwys: 

  • Cefnogi a chreu rhagor o amrywiaeth i wneud yr economi wledig yn fwy cydnerth
  • Cefnogi arloesedd a chydweithio
  • Cryfhau a datblygu cadwyni cyflenwi lleol 
  • Sbarduno’r newid yn arferion cwsmeriaid tuag at gynnyrch a chyrchfannau lleol
  • omentwm i gyflymu’r newid i economi carbon isel mewn cymunedau gwledig.  

Bydd nifer o gyfleoedd yn codi cyn hir fydd yn berthnasol i fusnesau Gwlân a Thecstilau. Rydym yn eu rhestru isod: 

Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio, ar gyfer treialu gweithredu dros Dwf Gwyrdd a’r Economi Gylchol.  Bydd yn cefnogi gweithgareddau peilot fydd yn ymdrin â’r gadwyn gyflenwi gyfan.  Nod y cynllun yw ychwanegu at werth a gwreiddio’r ymdeimlad o le a threftadaeth ddiwylliannol Cymru trwy brosesu a marchnata cynnyrch di-fwyd. 

Amcan y Cynllun yw helpu cyrff cyhoeddus, busnesau, sefydliadau a chymunedau i gydweithio ar draws sectorau gydag amrywiaeth o randdeiliaid ar y raddfa briodol i allu gwireddu nifer o amcanion a chanlyniadau trwy “wneud i bethau newydd ddigwydd”.

Bydd cyllideb refeniw a chyfalaf o £1,000,000 a chyfnod ymgeisio rhwng 17 Ionawr 2020 ac 11 Chwefror 2021. 

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig
Ar gyfer:  

Busnesau fferm sy’n ystyried arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol; busnesau anamaethyddol sy’n bod a rhai newydd, gyda golwg ar gryfhau’r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynnyrch ERA a chreu a datblygu busnesau anamaethyddol micro a bach, ac arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol. Mae cronfa gyfalaf o £1,000,000 ar gael i ariannu 40% o’r costau cymwys.  Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor rhwng 18 Ionawr a 22 Chwefror 2021. 

Fe welwch ddyddiadau Datgan Diddordeb yn y Cynllun yma.

Mae’r uchod yn ychwanegol at y ffynonellau cymorth isod: 

  • Cyswllt Ffermio 
  • Busnes Cymru 
  • Mae Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER yn gweithredu hefyd yn wardiau gwledig 21 o’r 22 Awdurdod Lleol. Maen nhw’n gallu cynnal prosiectau peilot gan ddefnyddio’r cyllid sydd ganddynt.  I gysylltu â’r Grwpiau Gweithredu Lleol yng Nghymru, ewch i wefan y Rhwydwaith Gwledig