Mae’r pandemig COVID-19 wedi bwrw’r sector bwyd a diod yn arbennig. Ond, bydd cynhyrchwyr yng Nghymru’n derbyn cyngor arbenigol ar ymdopi â’r sefyllfa bresennol mewn dwy weminar arbennig sy’n ddosbarthiadau meistr mewn marchnata yn hwyrach fis yma.

Byddwn yn cynnal y gweminarau ‘TUCK IN - Marketing in a Crisis’ ar 9 Mehefin ac 16 Mehefin.

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru a’r Clwstwr Bwyd Da sy’n trefnu’r dosbarthiadau meistr ‘TUCK IN’ a fydd yn tynnu at ei gilydd gyfoeth o arbenigedd a phrofiad o wahanol rannau o’r sbectrwm marchnata.

Cafodd y dosbarthiadau meistr blaenorol groeso da iawn gan y cynhyrchwyr a chafwyd ymateb gwych i’r gweminarau sydd ar y gweill, a bydd y rhain yn digwydd ar Zoom.

Mae’r Clwstwr Bwyd Da’n rhaglen ddatblygu dan arweiniad busnesau sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i hyrwyddo gan Cywain.

Yn ôl Arweinydd y Clwstwr Bwyd Da, Sioned Best, “Mae angen i frandiau bwyd a diod ddeall yn iawn sut mae’r farchnad yn newid a bod yn eithriadol o ymatebol i hynny er mwyn gwyrdroi eu strategaeth, goroesi’r cyfnod hwn a ffynnu pan ddaw’r cyfnod i ben. Nod TUCK IN yw cael brandiau i rannu eu profiadau o’r ffordd y maen nhw wedi gwneud hynny a sut y maen nhw’n parhau i wneud hynny.”

Bydd y siaradwyr yn rhannu eu gwybodaeth arbenigol am farchnata, ynghyd â’u profiadau o’r ffordd y mae COVID-19 wedi effeithio ar fusnesau a brandiau.

Y Llywydd fydd Jim Cregan, sylfaenydd un o frandiau coffi mwyaf poblogaidd Prydain – Jimmy’s Iced Coffee. Mae’r hyn a gychwynnodd 10 mlynedd yn ôl fel arbrawf mewn ystafell gefn caffi wedi tyfu’n frand a brynir gan lu o fanwerthwyr a chyfanwerthwyr drwy’r wlad i gyd.

Meddai Jim Cregan, “Yn sail i TUCK IN eleni mae’r gri ‘rhaid bwrw mlaen â’r sioe’. Dydy COVID ddim yn mynd i’n hatal ni rhag cynhyrchu a darparu diwrnod ardderchog o straeon a gwybodaeth ddefnyddiol gan nifer o gwmnïau gwych."

“Dyma fy nhrydydd tro, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn llywydd eleni. Bydd hi’n ddiddorol ei weithio’n ddigidol, ond rydym wrth ein boddau’n wynebu her! Amdani!”

Ymysg y prif siaradwyr hefyd mae Cathy Capelin o Kantar Worldpanel, Scott James sylfaenydd a chyfarwyddwr Coaltown Coffee, a Pip Murry sylfaenydd Pip & Nut.

Yn ymuno â nhw mae Sophie Higgins, pennaeth marchnata i HIPPEAS Snacks, cyfarwyddwr masnachol Abergavenny Fine Foods, Bryson Craske, a chyd-sylfaenydd Jubel, Jesse Wilson.

Meddai Alison Lea-Wilson, cyfarwyddwr Cwmni Halen Môn a chadeirydd y Clwstwr Bwyd Da, “Roedd TUCK IN 2019 yn cynnig ysbrydoliaeth a mwynhad, a daeth â chwmnïau o bob maint at ei gilydd ar gyfer diwrnod o rannu gwybodaeth, awgrymiadau a syniadau.

“Rwy’n gwybod faint o waith y mae’r tîm yn Menter a Busnes wedi’i wneud i drefnu hwn ar gyfer 2020, ac rwy’n hynod o falch y bydd y ddau ddiwrnod yn digwydd eleni er gwaethaf COVID19."

“Mae’r sector bwyd a diod yn hanfodol i economi Cymru, ac mae’n rhaid canmol pob carfan sydd wedi gwneud TUCK IN yn bosibl am eu cefnogaeth bob amser."

“Gyda chymorth technoleg, byddwn yn gallu rhannu straeon siaradwyr sy’n ysbrydoli i’n helpu i ddod trwyddi – a ffynnu hyd yn oed – yn y cyfnod anarferol hwn."

“Gobeithio y bydd y cynhyrchwyr sy’n ymuno â ni ar y diwrnodau TUCK IN yn codi eu calonnau o weld yr anogaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i helpu ein busnesau gwych i wynebu heriau’r byd cythryblus hwn.”

Meddai Andy Richardson, cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

“Mae’n rhaid i ni gydnabod y sefyllfa yr ydym ynddi, sef bod yr argyfwng COVID-19 yn amharu’n sylweddol ar lawer o fusnesau. Mae’r effaith wedi bod yn amrywiol, yn dibynnu ar y cwsmer terfynol. Eto, mae thema gyffredin i hyn oll – mae’r arwyddion yn dangos bod ymddygiad prynu’r cwsmeriaid, a’r hyn sy’n werthfawr iddyn nhw, wedi newid a hynny efallai am byth.”

“Canfyddiad pobl yw’r realiti, ac mae angen i ni feddwl yn gyson am y ffordd yr ydym yn cyflwyno ein cynhyrchion a’n busnesau bwyd a diod i ddangos ein bod yn symud ymlaen gam wrth gam gyda’r newidiadau hyn. Mae’n rhaid i ni gadw ein cysylltiad â’n cwsmeriaid presennol, gan edrych hefyd ar y cyfleoedd i sicrhau busnes newydd lle mae COVID-19 wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid.”

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Grffiths:

“Rwy’n falch iawn bod adnodd gwerthfawr fel TUCK IN ar gael i ddod â busnesau bwyd a diod o Gymru ynghyd ar yr adeg heriol yma. 

“Bydd yr amrywiaeth o gyngor gan arbenigwyr sydd wrth wraidd y diwydiant bwyd a diod, rwy’n siŵr, yn helpu cynhyrchwyr i oroesi’r sefyllfa bresennol ac i ganolbwyntio’n gadarnhaol ar y dyfodol.”