scheme flier

Mae Dŵr Cymru wedi agor cyfnod cofrestru i ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir yng Nghymru waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau fel rhan o'i brosiect cyfrinachol ac am ddim, sef PestSmart.  

Mae PestSmart yn annog pobl ledled Cymru i ystyried dulliau 'doethach' o reoli chwyn, plâu a chlefydau nad ydynt yn effeithio ar bobl, dŵr na bywyd gwyllt.  
Esbonia Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Dŵr Cymru:  

"Mae ein rhaglen arferol o fonitro dŵr heb ei drin wedi canfod mwy a mwy o olion o blaladdwyr mewn ardaloedd lle nad ydym wedi eu gweld o'r blaen. Er bod y lefelau hyn yn rhy isel i achosi risg i'r rhai sy'n yfed y dŵr, maent yn ddigon i fod mewn perygl o dorri safonau dŵr yfed llym, felly rydym am weithio gyda ffermwyr, tyfwyr a rheolwyr tir er mwyn cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater hwn gyda'n gilydd. 

"Gall hyd yn oed y rheolwyr tir mwyaf trefnus weld bod ganddynt gynnyrch hen neu sydd heb drwydded erbyn hyn y gall fod yn anodd neu'n ddrud i'w waredu yn y ffordd gywir. Er mwyn eu helpu, rydym yn lansio cynllun gwaredu cyfrinachol ac am ddim i waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau yn ddiogel.  
"Rydym yn gwybod bod gan blaladdwyr rôl hanfodol bob dydd yn y gymuned amaethyddol. Fodd bynnag, os na chânt eu storio, eu defnyddio na'u gwaredu'n gywir, gallant gael effaith ddychrynllyd ar bobl, dŵr a bywyd gwyllt. Drwy ddarparu'r cynllun cyfrinachol am ddim hwn ledled Cymru, rydym am weithio gyda rheolwyr tir er mwyn lleihau'r risg o lygredd a diogelu ansawdd dŵr heb ei drin cyn iddo gyrraedd ein gweithfeydd trin dŵr."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:  

"Mae hon yn fenter wych gan Dŵr Cymru ac rwyf yn annog pob ffermwr, tyfwr a rheolwr tir i gofrestru am y cynllun gwaredu plaladdwyr am ddim. Mae lleihau effaith plaladdwyr ar yr amgylchedd i'r eithaf yn rhan annatod o'r gwaith o ymateb i'r argyfwng ecolegol, gan amddiffyn cyrsiau dŵr Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Mae'r cynllun ar gael ledled Cymru, nid dim ond yn ardal weithredu Dŵr Cymru. Mae'n gwbl gyfrinachol ac ar gael am gyfnod cyfyngedig ar sail y cyntaf i'r felin.  
Er mwyn cofrestru, ewch i www.dwrcymru.com/disposalscheme neu ffoniwch 01443 452716 erbyn 5pm ddydd Llun 30 Medi fan bellaf. Bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel i gontractwr gwastraff peryglus penodedig Dŵr Cymru a fydd yn cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion cyn casglu eich plaladdwyr a chwynladdwyr nad oes ei heisiau ar ddiwrnod a drefnir ymlaen llaw.

Mae telerau ac amodau yn gymwys ac maent ar gael ar wefan Dŵr Cymru.  

Mae'r prosiect hwn wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.